Arian i'r sector gwirfoddol cyn paratoi am Brexit

  • Cyhoeddwyd
brexit

Bydd y 'trydydd sector' - grwpiau cymunedol a gwirfoddol neu sefydliadau nid-am-elw - yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi am Brexit.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Alun Davies bod £150,000 ar gael o Gronfa Bontio'r Undeb Ewropeaidd i ariannu ymchwil i sut y gallai Brexit effeithio ar wasanaethau cymunedol yng Nghymru, ac i helpu'r sector i gynllunio ar gyfer hynny.

Dywedodd Mr Davies y byddai'n gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) i gyflawni'r prosiect.

"Beth bynnag fydd ffurf Brexit yn y pen draw, bydd ymadael â'r UE yn amharu ar sawl maes," meddai.

"Dyna pam rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i gynllunio ar gyfer pob canlyniad posib.

"Wrth i ddyddiad Brexit agosáu, bydd rhaid i gyrff trydydd sector feddwl yn ofalus sut i ymateb i'r newidiadau sy'n codi a darparu gwasanaethau hanfodol i'n cymunedau.

"Rydyn ni am sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru'n parhau i ddarparu'r safonau uchaf posib i bobl Cymru ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac fe fydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau hynny."

Ffynhonnell y llun, Quadrant Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae prif weithredwr CGGC, Ruth Marks wedi croesawu'r arian

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ruth Marks: "Rydyn ni'n falch iawn o gael y cyllid hwn.

"Mae llawer o ansicrwydd ynghylch Brexit a'r goblygiadau posibl i'r grwpiau a'r cymunedau mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

"Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i ddeall dibyniaeth Cymru ar y trydydd sector i ddarparu gwasanaethau cymunedol hanfodol bwysig, a'r ffordd y gallai ymadael â'r Undeb Ewropeaidd effeithio ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i'r cymunedau mwyaf anghenus."

Cyhoeddwyd Cronfa Bontio'r UE ym mis Ionawr fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru gyfer Brexit i helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i baratoi at y newidiadau sylweddol a ddaw.

Bydd y Gronfa'n darparu cymorth ariannol a benthyciadau, ac yn cefnogi'r gwaith o ddarparu cyngor i fusnesau a chyrff sector cyhoeddus.

Bydd hynny'n cynnwys cyngor technegol a masnachol, cyngor ar allforio a chyngor sy'n benodol ar gyfer sectorau.