Mwy'n astudio'r Gernyweg wedi llwyddiant albwm Gwenno
- Cyhoeddwyd
Mae nifer uwch nag erioed wedi sefyll arholiadau Cernyweg 2018 a hynny, yn ôl arholwyr, yn sgil llwyddiant y gantores o Gymru, Gwenno Saunders.
Dywedodd Bwrdd yr Iaith Gernyweg bod 77 o bobl wedi sefyll arholiad eleni - cynnydd o 15% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r cynnydd, medd yr ysgrifennydd arholiadau Tony Hak, yn rhannol oherwydd llwyddiant yr albwm Cernyweg, Le Kov.
Mae dros 1,200 o bobl wedi sefyll arholiadau ers iddyn nhw gael eu cyflwyno yn 1992.
Mae'r Gernyweg ar restr UNESCO, un o asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig, o ieithoedd sydd mewn perygl o ddiflannu ac mae'n cael ei chydnabod fel iaith leiafrifol gan Gyngor Ewrop.
Hunaniaeth
"Mae albwm Gwenno yn hwb ardderchog i'r iaith," meddai Mr Hak. "Mae cymaint o bobl yn ei gweld yn amlach o'u gwmpas ac maen nhw wedi dangos diddordeb."
Ychwanegodd bod pobl Cernyw hefyd yn dod yn fwy ymwybodol o'u hunaniaeth ac o le maen nhw'n dod.
"Mae yna ymwybyddiaeth gynyddol o'r iaith gan fusnesau sydd eisiau brandio Cernyweg," meddai.
'Synnwyr o le' yw ystyr Le Kov - ail albwm Gwenno, a gafodd ei magu yn Gymraeg a Chernyweg.
Enillodd Wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn a'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2015 gyda'i halbwm unigol cyntaf, Y Dydd Olaf.
Dywedodd bod defnydd cynyddol o'r Gernyweg mewn bywyd o ddydd i ddydd yn "gyffrous".
Perchnogaeth
"Mae'n eitha' anhygoel bod yr iaith yn fyw," meddai. "Mae hynny'n dangos pa mor wydn ydy hi achos dydy hi ddim wedi cael llawer o gefnogaeth."
Dywedodd bod yr iaith yn ffordd berffaith o gyflwyno hanesion Cernyw "sydd â hanes cyfoethog ac anferthol nad ydy llawer o bobol yn ymwybodol ohono".
"Mae'n cynnig perspectif arall... mae'n rhywbeth y mae poblogaeth Cernyw yn teimlo perchnogaeth drosto," meddai.
"Mae pobl yn dweud 'gadewch chi ni ei defnyddio mewn ffordd ddiddorol neu sy'n gwneud synnwyr i ni'."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2017