Cwpan Her: Caerwrangon 27-21 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Sgoriodd Jamie Shillcock 17 o bwyntiau yn erbyn y GweilchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Jamie Shillcock 17 o bwyntiau yn erbyn y Gweilch

Mae'r Gweilch wedi sicrhau pwynt bonws yng Nghwpan Her Ewrop er iddyn nhw golli oddi cartref yn erbyn Caerwrangon.

Fe ildiodd y Gweilch ddau gais o fewn 20 munud yn Sixways.

Roedd Caerwrangon 21-0 ar y blaen erbyn yr eglwyl, diolch i bwyntiau Wynand Olivier, Jack Singleton a Jamie Shillock.

Fe frwydrodd y Gweilch yn galed yn yr ail hanner i'w gwneud hi'n 21-14, diolch i geisiau Cory Allen a Rob McCusker.

Wnaeth y tîm cartref ymestyn y fantais cyn i Allen sgorio ail gais i hawlio pwynt bonws.

Ond fe wnaeth cic gosb arall gan Shillcock sicrhau ail fuddugoliaeth i'r tîm cartref yn y gystadleuaeth.