Taekwondo: Jade Jones yn ennill medal aur eto

  • Cyhoeddwyd
Jade JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jones wedi ennill dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd yn 2012 a 2016

Mae Jade Jones wedi ennill medal aur arall yn Grand Prix Taekwondo'r Byd ym Manceinion.

Fe enillodd y Gymraes yn y categori -57kg gan drechu Zhou Lijun o China yn y ffeinal ddydd Sul.

Dyma'r ail fedal aur Grand Prix i'r ferch o'r Fflint eleni yn dilyn ei buddugoliaeth yn Rhufain ym mis Mehefin.

"Ar ddechrau'r diwrnod ro'n i mewn dagrau achos mod i mor nerfus am fod pawb yn disgwyl i fi ennill," meddai Jones, sy'n 25 oed.

"Ond gyda'r dorf yn sgrechian drosoch chi roedd hi'n amhosib peidio mynd amdani."