Sut i wella ansawdd bywyd wrth i ni heneiddio
- Cyhoeddwyd
Ry'n ni fel Cymry yn byw yn hirach nac erioed o'r blaen. Er bod yna ostyngiad wedi bod yn ddiweddar, ar gyfartaledd, rydyn ni'n byw tan ein bod yn 80 oed. Mae arbenigwyr yn proffwydo y bydd y ffigyrau yma yn codi yn sywleddol eto yn ystod y degawdau nesaf.
Dyna'r newyddion da, ond wrth gwrs, mae hyn yn golygu y bydd 'na ragor o bwysau ar y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol.
Yma mae Yr Athro Mari Lloyd-Williams, arbenigwraig mewn meddyginiaeth liniarol (palliative care) ym Mhrifysgol Lerpwl yn trafod rhai o'r heriau sy'n ein hwynebu wrth i'r gymdeithas heneiddio:
Mae pawb eisiau byw oes hir ac iach ac i gael gofal pan yn cyrraedd diwedd oes, ac os yn bosib i gael gofal yn eu cartrefi. Mae'r twf yn nifer yr hosbisau a'r gwasanaethau gofal lliniarol wedi newid gofal diwedd oes er gwell. Yn ogystal mae'r ddau ddatblygiad yma wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o anghenion cleifion oedrannus mewn ysbytai a chartrefi gofal.
Rhagor angen gofal
Mae 'na amcangyfrif y gallai 75% o unigolion fanteisio ar ofal lliniarol pe bai ar gael, ond mae gofal lliniarol yn newid. Mae'r nifer enfawr o bobl sydd yn byw i oedran mawr yn golygu y bydd mwy o bobl nag erioed angen rhyw fath o ofal lliniarol.
Ry'n ni'n cysylltu gofal o'r fath yn bennaf gyda chlefydau fel canser ond mae ei angen hefyd i ofalu am gleifion sydd ag anhwylderau anadlu, clefydau'r galon neu unigolion sy'n cael trafferth symud.
Cefnogaeth ymarferol ac emosiynol
Erbyn 2040 bydd nifer y bobl sydd yn marw pob blwyddyn yn codi 25% a bydd nifer helaeth o'r bobl yma dros 85 oed. Yn ogystal â thrin symptomau a phroblemau corfforol bydd angen cefnogaeth ymarferol a gofal emosiynol ar y bobl yma. Er bydd nifer fawr ohonyn nhw yn dal i fyw yn y gymuned, mae nifer gynyddol yn profi unigrwydd. Mewn sawl achos 'chydig iawn o aelodau'r teulu sydd o'u cwmpas ac yn aml maen nhw'n gofalu am gymar sydd hefyd yn diodde' problemau iechyd.
Hefyd o ddiddordeb...
Mae unigrwydd yn achosi salwch (a hefyd yn ôl peth ymchwil yn ffactor bwysig mewn achosi marwolaeth). Hefyd mae pobl sydd yn unig ac ynysig yn llawer mwy tebygol o fynd at feddyg teulu neu alw'r gwasanaethau brys. Maen nhw'n fwy tebygol hefyd o orfod cael triniaeth yn yr ysbyty a threulio cyfnod mewn cartref gofal. Mae hynny yn rhoi pwysau ariannol sylweddol ar yr unigolyn ac ar bwrs y wlad.
Llai o gymorth ar gael mewn ardaloedd gwledig
Hawdd meddwl fod y teimlad yma o unigrwydd cymdeithasol yn fwy o broblem yn ein trefi nag yn ein hardaloedd gwledig ond mae'r gwrthwyneb yn wir. Mae canran uwch o bobl mewn oed yn byw mewn ardaloedd gwledig 'na sydd yn ein trefi. Yn y sefyllfaoedd yma mae pobl oedrannus yn tueddu i gael llai o gymorth gan eu teuluoedd oherwydd y pellter a phroblemau teithio ayyb.
Fedrwn ni ddim dibynnu na disgwyl i'r gwasanaethau statudol ysgwyddo'r baich yma ac mewn llawer achos does dim angen gofal arbenigol hyd yn oed ar bobl sydd gyda salwch difrifol yn cyrraedd diwedd oes. Mae 'na sawl enghraifft o "gymdeithas dosturiol" ble mae gwirfoddolwyr o'r gymuned yn darparu gwasanaeth o fewn o gymuned. Gall hyn fod mor syml a tharo mewn yn rheolaidd i weld rhywun sydd yn wael neu oedrannus a chynnig cymorth ymarferol.
Y gymdeithas yn dod at ei gilydd
Mae'n bosib' datblygu'r egwyddor honno ymhellach fel sydd yn digwydd yng Nghanolfan Waungoleugoed, ger Llanelwy. Yno, mae gwirfoddolwyr sydd wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol yn gallu rhoi gofal dydd arbenigol i bobl oedrannus yn y gymuned.
Fel mae babi newyddanedig angen gofal ymarferol, cysur a chariad - felly hefyd anghenion rhai sydd mewn oed neu sydd yn wynebu diwedd oes a gall pob un ohonom ni wneud rhywbeth i helpu rhywun yn y sefyllfa hon. 'Dyn ni'n tyrru i weld baban newyddanedig, fe ddylem hefyd gofio tyrru i weld y rhai sydd yn agosáu at ddiwedd eu bywydau hefyd.
Mae rhai o'r materion sy'n cael eu trafod yn yr erthygl yn cael eu trin yn fanylach mewn cyfrol sydd wedi ei golygu gan yr Athro Mari Lloyd-Williams: Psychosocial Issues in Palliative Care: A community based approach for life limiting illness, 3ydd argraffiad (Oxford University Press)