Galw ar arweinydd Cyngor Sir y Fflint i gamu o'r neilltu
- Cyhoeddwyd
Gall BBC Cymru ddatgelu fod arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi cael cais i gamu o'r neilltu yn wirfoddol tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i gŵyn yn ei erbyn.
Cafodd y cais ei wneud gan gynghorwyr o'r gwrthbleidiau, a ddywedodd y gallai honiad o garwriaeth rhwng Aaron Shotton ac un o weithwyr y cyngor niweidio enw da'r awdurdod lleol.
Yn ôl adroddiadau mae'r ddynes oedd yn rhan o'r garwriaeth wedi colli ei swydd.
Dywedodd Mr Shotton fodd bynnag y byddai'n parhau yn ei swydd wrth i'r ymchwiliad i'w ymddygiad barhau, ac nad oedd wedi cael y cyfle eto i "ateb yr honiadau" yn llawn.
'Yn y tywyllwch'
Mewn llythyr cyfrinachol fe wnaeth arweinwyr y pedair gwrthblaid ar y cyngor - y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol, a dau grŵp o gynghorwyr annibynnol - alw ar Mr Shotton i gamu o'r neilltu tra bod ymchwiliad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn digwydd.
Mynnon nhw fodd bynnag nad fyddai gwneud hynny'n gyfaddefiad o euogrwydd gan Mr Shotton, ac mai lle'r ombwdsmon oedd dod i ddyfarniad ar hynny.
Yn dilyn adroddiadau fod y ddynes wedi colli ei swydd gyda'r cyngor, fe wnaeth y cynghorwyr ofyn am gyfarfod gyda phrif weithredwr yr awdurdod, Colin Everett yn ogystal â'r swyddog monitro.
Ond fe gawson nhw wybod na fyddai hynny'n bosib nes ar ôl cyfarfod llawn nesaf y cyngor brynhawn ddydd Mawrth.
"Rydyn ni yn y tywyllwch ar hyn, sy'n siomedig," meddai Chris Dolphin, arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol.
"'Dyn ni'n teimlo y gallen ni fod wedi cael mwy o wybodaeth yn hytrach na darllen am hyn i gyd ar-lein."
Ychwanegodd arweinydd y grŵp Ceidwadol, Chris Carver: "Dylai wneud y peth iawn a chamu o'r neilltu nes i'r ymchwiliad ddod i ben... mae'n dod â sylw drwg i'r cyngor."
'Achos mewnol'
Mewn ymateb fodd bynnag dywedodd Mr Shotton ei fod wedi cyfarfod arweinwyr y gwrthbleidiau eisoes i esbonio ei safbwynt iddyn nhw.
"Fe wnaethon nhw dderbyn fy esboniad i y bydda i, gyda chefnogaeth fy ngrŵp, ac yn dilyn cyngor cyfreithiol, yn parhau yn fy rôl a fy mod i'n aros am y cyfle i ateb yr honiadau yn fy erbyn yn llawn," meddai.
"Gan fod proses eisoes ar y gweill gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn anffodus allai ddim gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Ychwanegodd Cyngor Sir y Fflint mewn datganiad: "Does dim modd i ni wneud sylw ar fanylion achos cyflogaeth fewnol.
"Mae swyddfa'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn annibynnol o'r cyngor, ac yn gyfrifol am unrhyw achosion o gamymddwyn honedig gan gynghorwyr y maen nhw'n ymchwilio iddynt."