'Rhyddhad' mam o glywed am gyfaddefiad llofrudd ei merch
- Cyhoeddwyd
Mae mam i ferch yn ei harddegau gafodd ei churo i farwolaeth wedi dweud ei bod yn teimlo rhyddhad ar ôl clywed bod ei chyn-gariad wedi cyfaddef ei lladd.
Cafodd Joshua Davies ei ganfod yn euog o lofruddio Rebecca Aylward yn 2010 ar ôl ei denu i goedwig ger Abercynffig ym Mhen-y-bont ac ymosod arni gyda charreg.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Davies wedi brolio y byddai'n lladd y ferch 15 oed, a'i fod wedi cael bet gyda'i ffrindiau ble bydden nhw'n prynu brecwast iddo petai'n gwneud.
Fe wnaeth Davies, oedd yn 16 ar y pryd, wadu ei llofruddio, ond cafodd ei garcharu yn 2011 am o leiaf 14 mlynedd.
'Teimladau cymysg'
Wrth siarad ar drothwy wyth mlynedd ers marwolaeth ei merch, dywedodd Sonia Oatley ei bod wedi clywed fod Davies bellach wedi cyfaddef ei fod wedi ei lladd, ac mai dim ond ef oedd yn gyfrifol.
"Nes i glywed ychydig cyn y Nadolig llynedd," meddai.
"Cefais fy ngalw i'r swyddfa brawf ac roeddwn i'n disgwyl iddyn nhw ddweud ei fod e'n gwneud cais am barôl, felly pan ddaethon nhw mas a dweud hynny roedd e'n syndod.
"Roedd gen i deimladau cymysg. Roeddwn i'n teimlo rhyddhad ei fod e wedi cyfaddef, ond ar yr un pryd dwi ddim eisiau iddo fe gyfaddef achos dwi ddim eisiau iddo fe ddod mas."
Cafodd Sonia Oatley wybod fod Davies wedi gwneud y cyfaddefiad ym mis Medi llynedd, ond ei bod hi wedi cael cais i beidio siarad am y peth yn gyhoeddus.
Dywedodd Mrs Oatley, sydd yn fam i ddau o blant eraill, ei bod wedi cael gwybod nad yw Davies wedi gwneud cais am barôl, ond ei bod hi'n poeni y bydd yn gwneud ryw ddydd.
Ychwanegodd fod y teulu yn nodi dyddiad marwolaeth Rebecca bob blwyddyn wrth ymweld ag un o'i hoff lefydd.