'Pleidlais ystyrlon' i ACau ar ffordd liniaru'r M4

  • Cyhoeddwyd
julie james
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Julie James siarad yn absenoldeb Carwyn Jones yn y Siambr ddydd Mawrth

Mae Aelodau Cynulliad wedi cael gwybod y byddan nhw'n cael "pleidlais ystyrlon" ar adeiladu ffordd liniaru i'r M4 ai peidio, a hynny cyn i Carwyn Jones adael ym mis Rhagfyr.

Dywedodd y gweinidog cabinet Julie James fod gweision sifil hefyd wedi derbyn canfyddiadau ymchwiliad cyhoeddus i'r prosiect bellach.

Mae'r ymchwiliad wedi bod yn ystyried cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer traffordd newydd 15 milltir o hyd i'r de o Gasnewydd.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fyddai gan y cynlluniau gefnogaeth mwyafrif o ACau, gan fod rhai o fewn Llafur yn gwrthwynebu.

Wrth ddirprwyo ar gyfer Mr Jones yn y Senedd ddydd Mawrth, gofynnwyd i Ms James a fyddai ACau'n cael pleidlais ystyrlon ar y cynllun - fyddai'n gorfodi'r llywodraeth i lynu at y penderfyniad hwnnw.

"Byddan, mor glir ac y gallai wneud e, dwi wedi dweud y bydd y drafodaeth a'r bleidlais yn ystyried y penderfyniadau buddsoddi terfynol ac y bydd hynny yn ystod amser y llywodraeth.

"Felly bydd e'n bleidlais ystyrlon yn amser y llywodraeth, ar y llywodraeth.

"Mae fy aelodau fy hun ar y meiciau cefn wedi'i gwneud hi'n glir eu bod nhw eisiau gweld pleidlais o'r fath."

adam price
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price y dylai Llywodraeth Cymru orfod derbyn barn ACau ar y mater

Petai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, meddai, gallai'r gwaith ddechrau mor fuan â'r flwyddyn nesaf.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price y byddai'n "rhaid i'r llywodraeth wrando ar lais y Cynulliad" petai ACau'n gwrthod cefnogi'r ffordd liniaru, neu'r gyllideb fyddai'n ariannu'n prosiect.

Mae disgwyl i bleidlais ar y mater gael ei chynnal yn ystod wythnos 4 Rhagfyr, meddai Ms James.

Bydd arweinydd nesaf Llafur Cymru'n cael ei ethol ar 6 Rhagfyr, a'r wythnos ganlynol fe fydd Carwyn Jones yn trosglwyddo'r awenau'n ffurfiol i'r person hwnnw i ddod yn brif weinidog nesaf Cymru.