Beirniadu gweinidog am gymharu cynghorwyr i Oliver Twist

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi beirniadu'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies wedi iddo gymharu cynghorwyr oedd yn gofyn am fwy o arian gyda chymeriad Oliver Twist.

Dywedodd Mr Davies y dylai cynghorwyr roi'r gorau i "gwyno", a hynny wedi i Lywodraeth Cymru gwtogi ar y setliad ariannol ar gyfer awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf.

Yn dilyn y sylwadau, dywedodd dirprwy arweinydd CLlLC y dylai'r Prif Weinidog Carwyn Jones "ystyried a yw'n briodol" i Mr Davies barhau yn ei rôl.

Mae Plaid Cymru wedi disgrifio'r toriadau fel rhai sy'n "waeth na fyddai wedi bod yn rhesymol i unrhyw un eu disgwyl", a galw ar y gweinidog i ymddiheuro.

'Dim mwy o gwyno'

"Dwi wedi cael llawer o gynghorwyr yn dod atai fel Oliver Twists dros yr wythnosau diwethaf - 'can we have some more'," meddai Alun Davies ar raglen Hawl i Holi, BBC Radio Cymru.

Dywedodd nad oes "angen 22 o awdurdodau lleol ar Gymru", a bod cynghorwyr yn cytuno â hynny'n breifat ond yn "anfodlon dweud hynny'n gyhoeddus".

Ychwanegodd ei fod eisiau gweld cynghorau'n cytuno i newidiadau.

"Dwi wedi cael digon o hynny ac mae'n bryd i hynny newid, felly beth dwi eisiau clywed gan gynghorwyr yw dim mwy o gwyno," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dai Lloyd AC wedi galw ar Alun Davies i ymddiheuro

Yn gynharach yn y drafodaeth dywedodd Mr Davies fod cynghorau yn Lloegr wedi wynebu toriadau mwy, ac y byddan nhw'n colli eu holl gyllid o'r llywodraeth ganolog yn fuan.

Dros yr haf dywedodd y gweinidog na fyddai cynghorau'n cael eu gorfodi i uno, gan fynd yn groes i gynigion oedd wedi cael eu cyflwyno'n gynharach yn y flwyddyn.

Wrth ymateb i'r sylwadau diweddaraf dywedodd Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe a dirprwy arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod geiriau'r gweinidog yn "hynod anffodus ac amhriodol".

"Rydyn ni'n galw ar y Prif Weinidog i ymbellhau ei hun o sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet ac ystyried a yw'n briodol iddo aros yn y cabinet yn ei swydd bresennol," meddai.

Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn ymddiheuro am ofyn am fwy o adnoddau oddi wrth Lywodraeth Cymru i achub y gwasanaethau hynny sy'n cael eu darparu gan athrawon, gweithwyr ieuenctid, llyfrgellwyr a gofalwyr sy'n gwarchod cymunedau Cymru."

'Meistr creulon'

Dywedodd Dai Lloyd AC, llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, y dylai Mr Davies "ymddiheuro" am ei sylwadau diweddaraf.

"Mae'r dirmyg sy'n cael ei ddangos gan Alun Davies tuag at lywodraeth leol yn esiampl o ymddygiad hynod o wael," meddai.

"Mae cymharu cynghorwyr i Oliver Twist - y bachgen amddifad oedd yn ymbil am rual - yn anaddas tu hwnt ac yn eironig yn gwneud iddo fe edrych fel y meistr creulon yn y stori."