Comisiynydd Traffig Cymru 'dal yn gweithio o Loegr'
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Traffig Cymru yn parhau i fod wedi'i leoli yn Lloegr, er ei fod yn y swydd ers dwy flynedd.
Dyw Nick Jones dal heb lwyddo i sefydlu swyddfa yng Nghymru, ac yn hytrach mae'n gwneud ei waith o Birmingham.
Pan gafodd y swydd ei chreu yn 2016 y bwriad oedd cael swyddfa yng Nghymru gyda thri o staff cynorthwyol dwyieithog.
Ond mae un Aelod Cynulliad wedi dweud wrth raglen Wales Live nad yw'r swydd "yn addas i'w bwrpas".
'Dim cliw'
Swydd y Comisiynydd Traffig yw trwyddedu a rheoleiddio cwmnïau bysus a cherbydau trwm, a gweithredu os ydyn nhw'n torri rheolau.
Yn 2016 fe benderfynodd llywodraethau Cymru a'r DU ariannu swydd benodol ar gyfer Comisiynydd Traffig i Gymru - cyn hynny roedd Mr Jones yn cyflawni'r swydd ar y cyd gydag ardal gorllewin canolbarth Lloegr.
Ar y pryd dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates y byddai'r newid yn golygu bod modd i'r comisiynydd "weithio'n fwy effeithiol gyda'r rheiny sy'n darparu a chynnal ein rhwydweithiau trafnidiaeth yma yng Nghymru".
Ond mae Mr Jones, sy'n cael ei dalu £97,354 y flwyddyn, wedi'i chael hi'n anodd sefydlu swyddfa yng Nghaerdydd, ac yna ym Mangor.
Llynedd fe ddywedodd fod trafferthion wrth geisio recriwtio staff dwyieithog wrth wraidd rhai o'r problemau.
Yr wythnos hon cafodd Wales Live wybod fod y comisiynydd yn edrych ar agor swyddfa yng Nghaernarfon, ond nad oedd unrhyw beth wedi ei gadarnhau eto.
Dywedodd AC Llafur Llanelli, Lee Waters: "Mae'r deilydd presennol Nick Jones yn dod drosto fel dyn neis, ond does ganddo ddim cliw ynglŷn â'r amgylchedd mae'n gweithio ynddi.
"Dyw e ddim yn deall datganoli, dyw e ddim fel petai e'n gallu recriwtio staff, a dyw e ddim yn teimlo'r angen i symud y tu hwnt i Birmingham.
"Dwi wir ddim yn meddwl bod y swydd yma'n addas i'w bwrpas."
'Llwyr gefnogol'
Dywedodd llefarydd ar ran Nick Jones mai cyfrifoldeb asiantaeth y DVLA, nid y comisiynydd, oedd recriwtio staff, ac y bydden nhw'n penodi gweithwyr unwaith y bydd safle priodol wedi ei ganfod.
Ychwanegodd fod gwrandawiadau, seminarau a gweithdai Mr Jones i gyd yn cael eu cynnal yng Nghymru, a'i fod wedi hybu cydymffurfiaeth yn yr iaith Gymraeg yn ogystal â dod i ddeall datganoli.
Mae disgwyl i Mr Jones gamu o'r neilltu'r flwyddyn nesaf ar ôl 21 mlynedd fel comisiynydd traffig.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda'r Comisiynydd Traffig Nick Jones dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn llwyr gefnogol o'i allu i gyflawni ei waith yng Nghymru, yn ogystal â'i ddealltwriaeth o ddatganoli a'i ddealltwriaeth a'i gefnogaeth o iaith a diwylliant Cymru.
"Mae'n ymwybodol iawn o'r pwysigrwydd o weithio'n ddwyieithog, a dyna pam y mae'n edrych i sefydlu swyddfeydd priodol yn ardal Caernarfon, ble mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg."
Yn 2017/18 fe wnaeth Comisiynydd Traffig Cymru ddelio gyda 66 ymchwiliad yn erbyn cwmnïau cerbydau trwm, 24 ymchwiliad yn erbyn cwmnïau bysus, a 112 o ymchwiliadau yn ymwneud a materion fel trwyddedau a phrydlondeb bysus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2017