Cylch yr Iaith: Twristiaeth yn erydu'r Gymraeg yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Howard Huws
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Howard Huws o fudiad Cylch yr Iaith mae twristiaeth yn cael blaenoriaeth "ar bob dim arall" yng Ngwynedd

Mae yna alw ar i Gyngor Gwynedd edrych eto ar eu polisïau'n ymwneud â thwristiaeth yn yr ardal.

Yn ôl mudiad Cylch yr Iaith mae blaenoriaethu twristiaeth yno'n "erydu'r gymuned Gymraeg".

Gwynedd oedd â'r canran uchaf o dai gafodd eu gwerthu fel ail gartrefi neu dai rhent yn y DU y llynedd.

Er cynnydd yn y dreth ar gartrefi o'r fath, roedd dau o bob pum tŷ gafodd eu gwerthu yno'n ail gartrefi neu'n eiddo i'w rentu.

Fis diwethaf, cafodd y cyngor eu beirniadu o fynd ati'n "slei" i ganiatáu 35 o dai gwyliau moethus, gwerth hyd at £750,000 yr un, ar hen safle gwesty Plas Pistyll ym Mhen Llŷn.

"Yn wyneb y gor-ddatblygu a diffyg rheolaeth sydd ar dwristiaeth ar hyn o bryd, [mi ydan] ni'n gofyn am ddiffiniad cadarn o beth yw gormodedd," meddai Howard Huws o Gylch yr Iaith.

"Mae 'na ddiogelu amgylchedd, mae 'na ddiogelu tirwedd ond pan ti'n sôn am iaith a diwylliant a chymuned does 'na ddim llawer i'w hamddiffyn nhw.

"Mae twristiaeth yn cael y flaenoriaeth ar bob peth arall. Allwch chi ddim cynnal cymunedau cytbwys ar hynny."

Yn ôl Cyngor Gwynedd, maen nhw wedi cyflwyno treth cyngor o 50% ar ail gartrefi mewn ymateb i sefyllfa maen nhw'n ei alw'n un "bryderus".

Fe fyddan nhw'n rhoi "ystyriaeth fanwl" i ddadleuon Cylch yr Iaith, ac yn "ymateb yn llawn maes o law".

'Pobl leol methu fforddio tai'

Yn ôl yr aelod seneddol lleol, Liz Saville Roberts, mae'r sefyllfa'n "poeni nifer o bobl yn y sir ac yn ehangach".

"I bobl leol be' maen nhw'n gweld ydy tai mawr moethus yn cael eu codi a'u plant nhw ar yr un pryd methu fforddio tai," meddai.

"Ar hyn o bryd mae cyngor fel Gwynedd yn gweld colled yn faint o arian maen nhw'n gallu codi drwy eu treth cyngor achos bod gymaint o gartrefi yn shifftio eu statws i fod yn fusnesau - dyle bod yna ganiatâd cynllunio am hynny.

Disgrifiad o’r llun,

AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts: 'Angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy'

"Mae o'n dod ag arian mewn i'r ardal yn amlwg ond ar yr un pryd mae'n cael effaith ar y farchnad dai... a datblygwyr sy'n gweld o'n fwy gwerthfawr iddyn nhw fynd i ddatblygu unedau gwyliau mawr yn hytrach na thai fforddiadwy.

"Mae angen i ni edrych ar bob pŵer sydd ganddo ni'n lleol, ond yn gyffredinol, ac yn sylfaenol, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i ddefnyddio'r gyfundrefn gynllunio er budd ein heconomi ni a'n cymunedau ni, a dwi'n gofyn iddyn nhw wneud hynny'n llawn."

Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn "llwyr ymwybodol o'r effaith mae ail gartrefi a thai gwyliau yn ei gael ar y cyflenwad o dai sydd ar gael am bris fforddiadwy i bobl leol".

Dywedodd llefarydd y byddan nhw'n croesawu trafodaeth gyda'r llywodraeth a Ms Saville Roberts i gael "datrysiad i'r sefyllfa bryderus yma".

Beth sydd gan Lywodraeth Cymru i'w ddweud?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor hwn o lywodraeth ac rydym wedi pasio deddfwriaeth i roi'r gorau i Hawl i Brynu i ddiogelu ein stoc tai cymdeithasol.

"Mae arian ar gael i bobl sydd angen help i brynu cartref trwy ein cynllun Cymorth Prynu, sydd ar gael yng Ngwynedd, ac mae'n cynnwys meini prawf sy'n ffafrio pobl leol.

"Mae treth trafodion tir (land transaction tax), gyda'r cyfraddau cychwyn mwyaf ffafriol yn y DU, yn helpu mwy o bobl i fynd ar yr ystol dai.

"Mae hefyd yn cynnwys y gyfradd ychwanegol o 3% ar gyfer ail gartrefi. Mae'r holl arian a godir o dreth trafodion tir yn aros yng Nghymru, gan helpu i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus."