Llofruddiaeth Conner Marshall: Cwest i ailgychwyn

  • Cyhoeddwyd
Conner Marshall a'i fam NadineFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nadine Marshall bod gan ei mab Conner synnwyr digrifwch gwych

Mae teulu dyn 18 oed gafodd ei ladd wedi cael gwybod bydd cwest i'w farwolaeth yn ailgychwyn.

Bu farw Conner Marshall o'i anafiadau ar ôl i David Braddon ymosod arno ym Mharc Carafanau Bae Trecco ym Mhorthcawl ym mis Mawrth 2015.

Cafwyd Braddon yn euog o lofruddiaeth a'i garcharu am oes ym mis Mehefin 2015.

Fe gymrodd Nadine a Richard Marshall eu hachos i lys y crwner am nad oedd ganddyn nhw ddigon o wybodaeth am yr amgylchiadau yn arwain at farwolaeth eu mab hynaf.

Roedden nhw'n poeni'n benodol am ddedfrydau blaenorol Braddon, a safon y goruchwylio gan y gwasanaethau cyffuriau a'r swyddogion prawf (probation).

Dywedodd eu cyfreithiwr bod Braddon wedi camarwain y swyddogion a'i fod yn canslo ac yn peidio mynychu apwyntiadau.

Fe glywodd y llys hefyd bod Braddon wedi cyflawni nifer o droseddau yn ymwneud â chyffuriau a thrais dros y blynyddoedd a'i fod wedi cael ei asesu fel perygl i'r cyhoedd.

Dywedodd y crwner wrth y teulu eu bod nhw'n "gwthio drws sy'n agored" a bod y ffaith i Braddon bledio'n euog wedi golygu nad oedd y ffeithiau wedi cael eu harchwilio'n llawn.

Mae sgôp y cwest eto i'w gadarnhau.