Tour de France: Thomas am gyd arwain gyda Froome yn 2019?

  • Cyhoeddwyd
Team SkyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Chris Froome a Geraint Thomas o Team Sky yn bresennol yn Paris ar gyfer cyflwyno llwybr ras Tour de France 2019

Mae enillydd y Tour de France 2018, Geraint Thomas wedi cadarnhau ei fod yn disgwyl cyd-arwain Team Sky gyda Chris Froome yn y ras y flwyddyn nesaf os bydd yn cymryd rhan.

Daeth sylwadau Thomas wrth i lwybr ras 2019 drwy Ffrainc gael ei gyhoeddi gan y trefnwyr.

Bydd y ras yn cychwyn ym Mrwsel ar 6 Gorffennaf ac yn cynnwys 30 o fynyddoedd a phum cymal sy'n gorffen ar gopaon.

Dywedodd Geraint Thomas: "Fe fydd pethau'n debyg iawn i'r ras eleni yn y ffordd roedden ni'n reidio gyda'n gilydd.

"Ry'n ni wastad yn onest gyda'n gilydd ac allai ddim deall pam na allwn wneud hyn eto," meddai.

Ffynhonnell y llun, Tour de France
Disgrifiad o’r llun,

Llwybr Tour de France 2019

Ychwanegodd Thomas nad oedd yn siŵr eto pe bai'n cymryd rhan yn y ras y flwyddyn nesaf, ond dywedodd y buasai'n "caru mynd yn ôl".

"Does dim pwynt i mi fynd yn ôl oni bai fy mod yn rhoi 100%... rwy'n edrych ymlaen," meddai.

Bydd y ras y flwyddyn nesaf yn dathlu 100 mlynedd ers cyflwyno'r crys melyn i'r arweinydd.

Fe fydd 3,460km yn cael ei seiclo dros 21 cymal gan ymweld â'r Pyrenees yn yr ail wythnos a'r Alpau yn yr wythnos olaf cyn gorffen fel arfer yn Paris.