Ailenwi Felodrôm yn swyddogol i anrhydeddu Geraint Thomas

  • Cyhoeddwyd
Dadorchuddiad edrychiad newydd y ganolfan wedi'r ailenwi
Disgrifiad o’r llun,

Dadorchuddiad edrychiad newydd y ganolfan wedi'r ailenwi

Mae Felodrôm Cenedlaethol Cymru wedi cael ei ailenwi'n swyddogol yn Felodrôm Geraint Thomas.

Roedd y seiclwr yn bresennol wrth i'r enw newydd gael ei ddadorchuddio yn adeilad y cylch rasio yng Nghasnewydd - oriau yn unig ar ôl gorffen cystadlu yng nghymal cyntaf Tour of Britain yn ne Cymru.

Fe gyhoeddodd Cyngor Casnewydd fis diwethaf fod enillydd Tour de France eleni wedi derbyn eu cynnig i nodi'r gamp trwy roi ei enw ar y ganolfan.

Fe wnaeth Thomas sicrhau ei le yn y llyfrau hanes ym mis Gorffennaf fel y Cymro cyntaf i ddal gafael ar y crys melyn yn hanes 105 mlynedd y ras.

Dywedodd wedi'r seremoni ddydd Sul: "Mae'n rhyfedd - ry'ch chi'n breuddwydio am rasio a chroesi'r llinell gyda'ch breichiau yn yr awyr, ond byth yn meddwl am beth bynnag ddaw wedi hynny.

"Rwy'n cofio dod yma yn 2004 a gwylio'r hogia'n paratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd. Pe tasech chi wedi dweud wrtha'i bryd hynny y byddwn i'n ennill y Tour de France a bydde'r lle yma wedi ei enwi ar fy ôl i, fyswn i wedi chwerthin.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Geraint Thomas ei fod yn gobeithio y bydd mwy o seiclwyr ifanc yn defnyddio'r ganolfan

"Roedd yn sioc i dderbyn yr alwad ond yn anrhydedd anferthol na fyddwn i fyth wedi ei wrthod."

Ychwanegodd mai ei obaith yw y bydd "mwy a mwy o blant yn dod yma a defnyddio'r felodrôm a mwynhau seiclo, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cystadlu", a bod hi bellach yn bosib iddo dynnu coes ei gyd-aelod o Team Sky, Chris Froome nad oes felodrôm yn ei enw yntau eto.

Mewn ymateb i gyhoeddiad gwreiddiol y cyngor, dywedodd Thomas bod y felodrôm wedi chwarae rhan allweddol yn ei ddatblygiad fel seiclwr.

Mae wedi hyfforddi yno yn y gorffennol, gan gynnwys cyn Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 ble enillodd ei ail fedal aur Olympaidd, a chyn iddo ennill aur dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2014.

Roedd yn rhaid i Thomas adael yn fuan wedi'r seremoni er mwyn teithio i Ddyfnaint ar gyfer ail gymal Tour of Britain ddydd Llun.