Cyn-filwyr yn cael asesiadau meddygol 'diangen' medd AS
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-filwyr o Gymru'n wynebu asesiadau meddygol "diangen" er mwyn gallu derbyn budd-daliadau, yn ôl un AS.
Mae'r asesiadau wyneb-i-wyneb yn cael eu defnyddio i benderfynu a ddylai'r person dderbyn y budd-daliadau maen nhw'n eu hawlio.
Ond mae rhai wedi beirniadu'r system oherwydd y gallai waethygu sefyllfa milwyr ag afiechydon dirywiol neu PTSD.
Dywedodd Adran Gwaith a Phensiynau'r DU eu bod yn "gwerthfawrogi lles" milwyr a chyn-filwyr.
AS Llafur Torfaen, Nick Thomas-Symonds yw un o'r rheiny sydd wedi dweud fod yr asesiadau yn rhoi "pwysau diangen" ar gyn-filwyr.
"Mae gormod o gyn-filwyr yn wynebu'r asesiadau meddygol wyneb-i-wyneb diangen yma er mwyn derbyn budd-daliadau fel y Taliad Annibynnol Personol," meddai.
"Maen nhw wedi gwasanaethu eu gwlad ac yn haeddu tegwch. Ddylen nhw ddim cael eu gorfodi i fynychu canolfannau asesu pan nad oes angen, gan eu bod nhw eisoes wedi cael eu gweld neu wedi cael diagnosis cadarn.
"Mae asesiadau o'r fath yn gwneud y sefyllfa yn waeth i'n cyn-filwyr, ac maen nhw'n haeddu gwell."
Fe wnaeth Lee Jones o Gwmbrân wasanaethu gyda'r Siacedi Gwyrddion Brenhinol yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n credu y gallai asesiadau o'r fath ddod ag atgofion cas yn ôl.
"Rydych chi'n anfon tystiolaeth eich bod chi eisiau ymweliadau i'r cartref fel nad oes rhaid i chi adael eich amgylchedd chi, yr ardal saff 'dych chi wedi creu i'ch hun," meddai.
"Os nad ydych chi'n troi lan maen nhw'n stopio [y taliadau]. Weithiau dwi'n meddwl yw e werth y drafferth a'r loes jyst i gael ychydig o arian yn eich poced i dalu'ch biliau.
"Os yw rhywun yn dioddef o salwch dyw e ddim jyst yn mynd i ffwrdd. Os oes gyda chi PTSD dyw hynny ddim yn eich gadael chi.
"'Dych chi'n cael dyddiau da a dyddiau gwael. Ond dyw e ddim yn mynd i ffwrdd."
Cymorth
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau'r DU: "Rydyn ni'n gwerthfawrogi lles ein milwyr a'n cyn-filwyr yn fawr, ac yn annog unrhyw un sydd mewn angen i fanteisio ar yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
"Mae hyn yn cynnwys dwy linell gymorth 24 awr sydd yn gallu cynnig cyngor ar bynciau o iechyd meddwl i dai a chyllid.
"Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl anabl yn cael y gefnogaeth ariannol gywir, ac yn gwario dros £50bn y flwyddyn yn eu cynorthwyo nhw a'r rheiny â chyflyrau iechyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2018
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2016