Arestio dyn 12 awr wedi iddo wawdio'r heddlu mewn neges

  • Cyhoeddwyd
jamie worrallFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Cafodd dyn oedd ar ffo rhag yr heddlu ei ddal 12 awr yn unig wedi iddo eu gwawdio mewn neges ar Facebook.

Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru bostio neges yn gofyn i'r cyhoedd am gymorth wrth ddod o hyd i Jamie Worrall, 29 o'r Fflint, mewn cysylltiad â digwyddiad difrifol.

Wrth ymateb i'w neges nhw dywedodd Worrall y bydden nhw "fyth yn ei ddal".

Ond ychydig yn ddiweddarach fe gyhoeddodd yr heddlu ail neges yn dweud bod Worrall, a dyn arall gafodd ei grybwyll yn ei neges, wedi cael eu dal yn Blackpool.

"Fel 'dan ni'n sgwennu hyn, mae gennym ni ddagrau'n dod allan o'n llygaid a 'dan ni'n trio peidio disgyn allan o'n cadeiriau," meddai swyddogion.

neges jamie worrallFfynhonnell y llun, Facebook

"Dywedodd o "you lot will never catch us on your salsry" - dwi'n meddwl mai cyflog oedd o'n trio'i ddweud, ac mae hwnnw'n saff rŵan ein bod ni wedi'i ddal (o fewn 12 awr)."

Fe wnaeth y llu ddiolch i swyddogion yn Blackpool, yn ogystal ag aelod o'r cyhoedd, am eu cynorthwyo nhw i ddod o hyd i Worrall.

Mae Worrall bellach wedi ymddangos yn Llys Ynadon Gogledd Ddwyrain Cymru, a chael ei garcharu am bum mis.