Marwolaeth Pen-y-ffordd: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Llys Dewi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Teresa Garner ei ganfod mewn tŷ yn Llys Dewi, Pen-y-ffordd, rhyw ddwy filltir o bentref Mostyn

Mae dyn 51 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes yn Sir y Fflint yn gynharach yn yr wythnos.

Cafodd corff Teresa Garner, 46, ei ganfod mewn tŷ yn Llys Dewi, Pen-y-Ffordd ger Treffynnon ddydd Mercher.

Fe wnaeth John Barry Garner, sydd hefyd o Lys Dewi, Pen-y-Ffordd, ymddangos yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Sadwrn.

Mae wedi ei gyhuddo o ymosod ar Ms Garner gyda morthwyl, gan achosi "anafiadau sylweddol i'w phen".

Ni chafodd cais ei wneud am fechnïaeth, ac fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Bell o Heddlu'r Gogledd: "Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cymorth a'u hamynedd yn ystod yr ymchwiliad hyd yn hyn."

Fe ddywedon nhw hefyd nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.