Cannoedd mewn gwylnos yn Rhuthun i gofio am fechgyn lleol

  • Cyhoeddwyd
gwylnos
Disgrifiad o’r llun,

Gwylnos yng Nghlwb Rygbi Rhuthun

Daeth 200 o bobl i wylnos yn Rhuthun nos Sul i gofio am ddau fachgen lleol a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Dinbych.

Bu farw John Michael Jones, 18, a Leon Rice, 17, pan wnaeth y Vauxhall Corsa roedden nhw'n teithio ynddo daro cerbyd arall nos Wener.

Cafodd trydydd llanc yn ei arddegau, Colin Hornsby, 17 o ardal Manceinion, hefyd ei ladd yn y gwrthdrawiad.

Nos Sul daeth 30 o lorïau a thractors i wylnos ac roedd degau eraill wedi cerdded yno.

Roedd rhieni Michael a Leon yn bresennol yn yr wylnos, ac roedd y confoi o gerbydau yn cael ei arwain gan lori tad Michael Jones.

Disgrifiad,

Ymhlith y rhai a oedd yn yr wylnos roedd Islwyn Jones o Gymdeithas Tryciau Gogledd Cymru

Ffynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Roedd John Michael Jones (chwith) a Leon Rice yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun

Yn y cyfamser mae teuluoedd y ddau fachgen o Rhuthun wedi rhoi teyrngedau iddyn nhw.

Dywedodd teulu John Michael Jones: "Roedd Michael yn fab cariadus, yn frawd mawr i Joanne, yn ŵyr, nai, cefnder a ffrind.

"Rydyn oll yn methu ei wên fawr a'i gofleidiad. Roedd o'n mwynhau ei rygbi, tryciau, gyrru ei gar a bod gyda ffrindiau. Buasai yn gwneud unrhyw beth i rywun ac roedd o'n berson hynod ofalus.

"Byddwn yn ei golli'n fawr ac rydyn ni'n torri ein calonnau. Fydd bywyd fyth yr un fath eto."

'Trasiedi'

Dywedodd teulu Leon Rice: "Roedd Leon yn fab, brawd, nai, cefnder a ffrind cariadus a roedd o'n weithiwr caled.

"Rydyn ni wedi torri'n calonnau. Roedd o'n adnabyddus ac yn fachgen hoffus yn yr ardal.

"Roedd Leon a Michael yn ffrindiau gorau ac mae colli'r ddau mewn amgylchiadau mor drallodus yn gwbl dorcalonnus."

Fe wnaeth pedwar person arall ddioddef anafiadau yn y digwyddiad.

Disgrifiad,

Huw Hilditch-Roberts: "Colled enfawr i'r dref"

Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau a theyrngedau wedi cael eu gadael ger safle'r gwrthdrawiad

Cafodd gwylnos arall ei chynnal gan ffrindiau'r ddau - oedd yn gyn-ddisgyblion Ysgol Brynhyfryd - nos Sadwrn, ac roedd munud o gymeradwyaeth yn ystod gêm rygbi ieuenctid rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug ddydd Sul.

"Mae Rhuthun yn gymuned glos ac rydyn ni i gyd wedi brawychu," meddai maer y dref, Ian Lewney.

"Rydyn ni i gyd yn meddwl am deuluoedd y bechgyn fu farw ac fe fydd pawb yn y dref yn tynnu at ei gilydd a'u cefnogi nhw'r gorau allwn ni.

"Mae Rhuthun yn dref fach ble mae bron pawb yn 'nabod pawb. Roedd y ddau ddyn ifanc yma ar ddechrau eu bywydau ac fe fydd y drasiedi hon yn taro pobl ifanc ein tref yn galed."

Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau hefyd wedi eu gadael yng Nghlwb Rygbi Rhuthun, ble roedd Michael Jones yn chwaraewr

Ychwanegodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, oedd yn adnabod Michael Jones drwy ei fab a'r tîm rygbi, ei fod yn "hogyn distaw, diniwed".

"Roedd o'n gweithio'n galed ac roedd o'n hogyn hoffus ofnadwy," meddai.

"Mae gweld yr effaith mae o wedi'i gael ar y tîm rygbi, maen nhw wedi chwarae am flynyddoedd efo'i gilydd, yn anodd - dydy gweld y mab yn mynd drwy hynny ddim yn bleser o gwbl."

Tri yn yr ysbyty

O'r pedwar person arall a gafodd eu hanafu, mae tri yn dal yn cael triniaeth ysbyty, gan gynnwys un o'r ddau deithiwr arall oedd yn y Vauxhall Corsa.

Cafodd bachgen 16 oed ei gludo i ysbyty yn Lerpwl, lle mae "yn ddifrifol wael" yn ôl yr heddlu, ond mae dyn 19 oed bellach wedi ei ryddhau o Ysbyty Glan Clwyd.

Mae'r ddau wedi cael eu henwi'n lleol fel Liam Bell a Will Royles.

Mae dynes 68 oed oedd yn teithio yn y cerbyd arall, Vauxhall Antara, hefyd wedi ei hanafu'n ddifrifol ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd.

Ond mae disgwyl i'r dyn 66 oed oedd yn gyrru'r Vauxhall Antara gael gadael yr ysbyty yn y dyddiau nesaf ar ôl cael mân anafiadau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Colin Hornsby, 17, o ardal Manceinion oedd y trydydd bachgen fu farw

Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd ar ffordd gefn rhwng Dinbych a Threfnant am tua 19:30 nos Wener.

Brynhawn ddydd Sadwrn fe roddodd teulu Colin Hornby deyrnged iddo gan ddweud: "Roedd holl deulu a ffrindiau Colin yn ei garu.

"Roedd o'n caru bywyd, cerddoriaeth a dillad ffasiynol. Bydd ei deulu a'i ffrindiau'n teimlo colled fawr ar ei ôl a fydd ein bywydau ni fyth yr un peth hebddo."