'Hyder wedi chwalu' yn dilyn ail gamgymeriad gan ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae ysbyty yng ngogledd Cymru'n parhau i roi staff o flaen cleifion, yn ôl dynes o Fôn, a hynny dros 20 mlynedd ar ôl i lawdriniaeth gafodd hi yno achosi sgil effeithiau parhaol.
Dywedodd Carol Hughes o Aberffraw ei bod wedi colli ffydd yn y system ar ôl i gamgymeriad arall gael ei wneud gan Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Y tro hwn mae'n dweud bod llythyr oedd yn cynnwys manylion am ei thriniaeth wedi cael ei anfon at berson gwahanol.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn ymddiheuro i Mrs Hughes ac yn adolygu eu prosesau.
'Ofn gweld meddyg'
Yn 1994 cafodd Mrs Hughes lawdriniaeth mastoidectomi dan ofal yr adran ENT er mwyn gwella ei chlyw, ond cafodd nerf ei dorri yn ystod y llawdriniaeth.
O ganlyniad fe gollodd ei chlyw yn llwyr mewn un glust ac fe gafodd un ochr o'i hwyneb ei barlysu.
Fe wnaeth hi dderbyn setliad allan o lys gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cafodd y dyn oedd wedi ei thrin - Mohamed Bahaa Madkour - ei ddiarddel o'i waith fel ymgynghorydd yn Ysbyty Gwynedd ac o gofrestr y GMC yn 2009 am ddweud celwydd am driniaeth un o'i gleifion, ac am fethu â chanfod bod canser y gwddf ar y claf, fu farw'n ddiweddarach.
Roedd 18 achos o gamweinyddu yn ei erbyn ac fe wnaeth nifer o'i gyn-gleifion dderbyn setliad ariannol dros gyfnod o 10 mlynedd, ond heb unrhyw gyfaddefiad o fai gan y bwrdd.
"Mi gymerodd flynyddoedd i fi ymddiried yn y gwasanaeth iechyd eto ar ôl beth ddigwyddodd 'efo Mr Madkour," meddai Mrs Hughes.
"Ro'n i ofn gweld meddyg, ofn hyd yn oed mynd i Ysbyty Gwynedd. Mae'r hynny o ffydd a hyder a gefais yn ôl wedi chwalu eto rŵan."
'Ail gamgymeriad'
Daeth y digwyddiad diweddaraf, ym mis Medi eleni, yn sgil triniaeth a gafodd yn ddiweddar yn yr adran gynecoleg.
Cafodd llythyr yn cynnwys manylion am ei thriniaeth, manylion personol a'i rhif GIG ei yrru i'r ddynes anghywir, meddai, ac mae'n dweud bod ymateb yr ysbyty i'r camgymeriad wedi ei siomi.
"Ges i wybod am y camgymeriad gan fy arbenigwr ar yr un diwrnod ges i brofion iechyd sensitif," meddai.
"Roeddwn i'n poeni pan ddudodd o wrtha i fynd i'w weld o ar ôl i mi newid allan o'r gŵn achos y tro dwytha ro'n i wedi mynd yn syth adre' ar ôl newid.
"Ro'n i'n meddwl bod nhw 'di canfod rhywbeth difrifol. 'Dwi'n credu y dylwn i fod wedi cael gwybod gan rywun oedd wedi eu hyfforddi i ddelio efo materion fel hyn."
Ychwanegodd ei bod wedi disgwyl llythyr o ymddiheuriad, ond na chafodd hi un.
"Yn y diwedd roedd rhaid i mi ffonio nhw i godi pryder am y peth - ac mi wnaethon nhw ofyn i fi 'beth 'dach chi isho allan o hyn', wnaeth wneud i mi deimlo fel bo' fi wedi gwneud rhywbeth yn anghywir," meddai.
"Mi ddywedon nhw wrtha i fod y person wnaeth y camgymeriad yn ypset iawn am y peth. Roedd hynny gystal â dweud y dyliwn i deimlo'n ddrwg am hynny - ond fi oedd wedi diodde', dim yr aelod o staff."
'Gwella prosesau'
Er ei bod hi wedi cyfarfod aelod o staff y bwrdd bellach i drafod y digwyddiad, mae'n dweud fod eu cynnig i ysgrifennu llythyr yn ymddiheuro wedi dod wythnosau'n rhy hwyr.
"Ar ôl bob dim es i drwyddo ar ôl y llawdriniaeth gyda Mr Madkour, 'dwi ddim yn credu bod gofal cleifion wedi gwella yn Ysbyty Gwynedd. Ro'n i'n teimlo bod cleifion yn eilradd pan es i drwy bopeth 20 mlynedd yn ôl, a 'dwi dal i ofni hynna."
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gill Harris: "Mae'n ddrwg iawn gennym fod Mrs Hughes yn anhapus gyda'r ymddiheuriad a gafodd.
"Rydym yn cymryd cyfrinachedd cleifion o ddifrif ac rydym eisoes wedi rhoi prosesau ar y gweill i sicrhau nad yw'r math yma o gamgymeriad gweinyddol yn digwydd eto.
"Byddem yn annog Mrs Hughes i gysylltu â'r bwrdd iechyd i drafod ei phryderon ymhellach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2018
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2018