Pryder am gynnydd mewn cwynion am wasanaethau iechyd
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd mwy o gwynion eu gwneud am wasanaethau iechyd yng Nghymru y llynedd nag erioed o'r blaen.
Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett bod y "cynnydd graddol" yn nifer y cwynion yn "bryder gwirioneddol" a bod 41% ohonyn nhw'n ymwneud ag iechyd.
Daeth 927 o gwynion i law'r ombwdsmon am fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau iechyd, meddygon teulu a deintyddion yn 2017-18 - cynnydd o 7% o'r flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod nifer y cwynion yn isel o ystyried faint o gleifion oedd yn cael eu trin, ond eu bod yn cymryd pob cwyn o ddifri, a bod "gweithdrefnau mewn lle i ymchwilio" yn drylwyr i bob un.
'Cymhleth, sensitif ac arwyddocaol'
Wrth gyhoeddi ei adroddiad blynyddol, dywedodd Mr Bennett: "Mae'r cynnydd graddol yn nifer y cwynion iechyd yn bryder gwirioneddol ac maent bellach yn cyfrif am fwy na 40% o gyfanswm llwyth achos fy swyddfa.
"Mae llawer o gwynion gofal iechyd yn gymhleth, yn sensitif ac yn arwyddocaol, yn aml yn cynnwys niwed neu farwolaeth aelod o'r teulu.
"Maent yn aml yn cymryd mwy o amser i ymchwilio na chwynion eraill oherwydd difrifoldeb y materion sy'n cael eu codi a'r angen am gyngor clinigol.
"Pan fydd fy swyddfa yn darganfod anghyfiawnder, rydym yn disgwyl i gyrff ymgymryd â'r dysgu o fy ymchwiliadau.
"Yn fwy cyffredinol, rwy'n falch o weld lleihad bach yn y cyfanswm o gwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, gyda gostyngiad o 10% mewn cwynion am lywodraeth leol."
Mae'r adroddiad yn dangos bod nifer y cwynion yn erbyn byrddau iechyd wedi codi o 676 yn 2016-17 i 747 y llynedd.
Bu cynnydd "sylweddol" yn nifer y cwynion am fyrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan a Phowys.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gafodd y nifer fwyaf o gwynion, ond aeth nifer y cwynion i lawr o 192 i 186 mewn blwyddyn.
'Gonest, agored a thryloyw'
Wrth ymateb i sylwadau'r Ombwdsmon, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae buddsoddiad yn ein GIG yn uwch nag erioed, ac fe wnaeth 90% o'r rhai ymatebodd i Arolwg Cenedlaethol Cymru ddweud eu bod yn fodlon gyda'r gofal a gawson nhw.
"Mae nifer y cwynion sy'n cael eu gwneud o gymharu â'r nifer o gleifion sy'n cael eu trin yn fach iawn.
"Er hynny rydym yn ystyried pob cwyn o ddifri ac mae gweithdrefnau mewn lle i ymchwilio'n drylwyr i'r cwynion mewn modd gonest, agored a thryloyw.
"Rydym yn disgwyl i bob sefydliad GIG yng Nghymru i ddysgu gwersi o'r adborth y maen nhw'n ei gael."
Yn ddiweddar fe wnaeth Aelodau Cynulliad roi pwerau i'r Ombwdsmon ymchwilio i elfennau preifat o gwynion iechyd mewn achosion lle'r oedd y gofal yn gymysgedd o ofal cyhoeddus a phreifat.
'Gwelliannau'
Dywedodd cyfarwyddwr Cyd-Ffederasiwn GIG Cymru, Vanessa Young eu bod yn "gwneud ein gorau i sicrhau bod gweithredu" pan nad yw gofal yn cyrraedd y safon sydd i'w ddisgwyl".
"Mae'r Ombwdsmon yn cydnabod yn ei adroddiad bod gwelliannau wedi bod ar draws byrddau iechyd yn y flwyddyn ddiwethaf yn y ffordd ry'n ni'n edrych ar, a rheoli cwynion," meddai.
"Mae hyn yn adlewyrchu'r gwaith sydd wedi'i wneud i sicrhau bod cleifion a'u teuluoedd â mynediad gwell i'r broses gwynion, a bod y broses yn agored a thryloyw.
"Ry'n ni'n gwybod bod y mwyafrif o bobl sy'n derbyn gofal a thriniaeth gan y GIG yng Nghymru yn cael profiad cadarnhaol, ond ar yr achlysuron ble dyw pobl ddim yn fodlon, mae eu profiad yn elfen bwysig yn ein helpu i adolygu ein gofal a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018