Prifathro'n osgoi dedfryd o garchar am ymosodiad rhyw

  • Cyhoeddwyd
Kevin ThomasFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Kevin Thomas "wedi gwirioni" ar y fenyw

Mae prifathro ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi osgoi cael ei anfon i'r carchar ar ôl i lys ei gael yn euog o ymosodiad rhyw ar fenyw yr oedd wedi ei galw i'w swyddfa.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Kevin Thomas - pennaeth Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon, Llanrhymni - wedi cyffwrdd yn y ddynes mewn modd rywiol ar ôl "gwirioni" arni a danfon cyfres o ebyst awgrymog ati.

Roedd y diffynnydd 46 oed o'r Tyllgoed, sy'n dad i ddau o blant, wedi gwadu dau gyhuddiad o ymosodiadau rhyw ar y ddynes.

Fe gafodd Thomas orchymyn i weithio yn y gymuned gan y barnwr ac mae'n wynebu cael ei ddiswyddo fel prifathro.

Mae yna hefyd orchymyn sy'n ei atal rhag cysylltu â'r ddynes o hyn ymlaen.

'Ofnus ac anniogel'

Clywodd y rheithgor bod Thomas wedi galw'r ddynes i'w swyddfa yn yr ysgol a rhoi dillad isaf iddi, gan ddweud y bydden nhw'n "edrych yn hyfryd" arni hi.

Aeth ymlaen i wneud symudiad o natur rhywiol wrth ei thynnu tuag ato.

Dywedodd hithau bod ymddygiad Thomas wedi gwneud iddi deimlo'n "ofnus ac yn anniogel".

Wrth roi'r ddedfryd, dywedodd y barnwr fod "Thomas wedi ymddwyn mewn ffordd na ddylai dyn deallus ei wneud.

"Roedd hi'n glir eich bod eisiau perthynas er nad oedd hi eich eisiau chi," meddai.