Mwy o faw ci ar strydoedd Caerdydd na'r parciau

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae protestwyr yn credu bod pob perchennog ci'n cael eu cosbi am fethiannau lleiafrif sy'n achosi problemau

Mae ffigyrau'n dangos bod mwyafrif y cwynion am broblemau baw ci yng Nghaerdydd heb ddigwydd ym mharciau cyhoeddus cyngor y ddinas, er gwaethaf cynigion yr awdurdod i wahardd cŵn o'r mannau hynny.

Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd yr wythnos ddiwethaf eu bod yn annhebygol o fwrw ymlaen gyda'u cynlluniau yn eu ffurf presennol, ddyddiau wedi protest gan gannoedd o wrthwynebwyr.

Hefyd mae 16,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn y posibilrwydd o wahardd cŵn o feysydd chwaraeon wedi'u marcio a mannau chwarae caeëdig.

Dywed y cyngor bod dros 500 o gŵynion am faw cŵn wedi eu derbyn yn y 12 mis hyd Ebrill 2017, ond mae eu ffigyrau'n dangos 368 o geisiadau glanhau baw ci o'r stryd rhwng Ionawr a Hydref 2017.

24 o gwynion yn unig oedd yna yn ymwneud â pharciau cyhoeddus, ac roedd 66 yn rhagor mewn mannau'n cynnwys lleiniau glaswellt, tiroedd cymunedol ardaloedd preswyl a choedlannau.

Grangetown oedd âr nifer fwyaf o geisiadau - 64 yn y cyfnod dan sylw - gyda 27 yn Nhrelái, 26 yr un yn Nhreganna a Phlasnewydd, a 22 yn Adamsdown.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 200 o bobl mewn protest a gorymdaith yn erbyn cynigion y cyngor

Mae'r cyngor yn dweud y bydd yn ymgynghori ar gynlluniau newydd gyda pherchnogion cŵn a chlybiau chwaraeon er mwyn atal cŵn rhag baeddu ar feysydd sydd wedi'u marcio.

Roedd y rheolau newydd arfaethedig yn rhan o ymgais i warchod mannau cyhoeddus rhag perchnogion cŵn anghyfrifol.

Roedden nhw'n awgrymu codi'r ddirwy am fethu â glanhau ar ôl cŵn o £80 i £100 ac yn gorfodi perchnogion i gadw'u cŵn ar dennyn ym mynwentydd a llefydd chwarae'r cyngor.

Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod: "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn nodi bod nifer y cwynion ar ffyrdd Caerdydd yn uwch na nifer y cwynion mewn parciau.

"Mae'n bosib bod baw ci yn fwy amlwg o lawer ar balmant nag ar laswellt, a bod lefel y cwynion yn adlewyrchu hynny."

Ychwanegodd bod baw ci yn annerbyniol "ble bynnag mae'n digwydd", ei fod "yn hyll, yn anghymdeithasol ac yn beryglus" i iechyd y cyhoedd.

Bydd y cyngor, meddai, "yn parhau i ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael" i weithredu yn erbyn unigolion sydd ddim yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid.