Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Hartlepool

  • Cyhoeddwyd
wrecsam

Roedd gôl hanner cyntaf Luke Young yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Wrecsam yn erbyn deg dyn Hartlepool United ar y Cae Ras nos Fawrth.

Daeth y gôl yn yr hanner cyntaf ar ôl rhediad cryf Young, gyda'i ergyd bwerus yn curo Scott Loach yn y gôl.

Gwnaed pethau'n rhwyddach i'r tîm cartref ar ôl 40 munud wrth i gapten Hartlepool Andrew Davies gael ei anfon o'r cae.

Er hyn, llwyddodd yr ymwelwyr i ddod yn agos gyda Rob Lainton yn arbed ymdrech Conor Newton.

Golygai'r canlyniad fod Wrecsam yr ail safle ar yr un nifer o bwyntiau a Salford City sydd ar frig yr adran.