Teuluoedd Tawel Fan yn galw am ymchwiliad
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd cyn gleifion ward dementia Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd wedi galw ar Gynulliad Cymru i gynnal ymchwiliad i gyflwr y gofal a'r gwasanaeth.
Daeth eu sylwadau ar ôl iddynt gwrdd â'r ysgrifennydd iechyd Vaughan Gething ddydd Mawrth yng Nghyffordd Llandudno.
Fe wnaeth Tawel Fan, rhan o uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, gau yn 2013 ar ôl honiadau fod cleifion yn cael eu cam-drin.
Fe wnaeth ymchwiliad swyddogol ddweud fod cleifion yn cael eu cadw fel "anifeiliaid mewn sŵ."
Ond yn ddiweddarach fe wnaeth adroddiad swyddogol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddatgan nad oedd yna dystiolaeth o gam-drin sefydliadol.
Dywedodd teuluoedd wrth Vaughan Gething ddydd Mawrth eu bod yn credu fod adroddiad y Gwasanaeth Cynghori yn anghywir a chamarweiniol yn ei gasgliadau.
Maen nhw am weld ymchwiliad pellach i beth aeth o le ar y ward.
Neges arall y teuluoedd oedd eu bod o'r farn fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn rhy araf i ddysgu gwersi er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd hwn yn gyfarfod preifat ar ôl cais gan deuluoedd Tawel Fan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2018