Dynes a dau gi yn marw wedi tân yn Nhowyn, Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Ffordd GorsFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y tân yn Ffordd Gors ger y gyffordd â Kinmel Way

Mae dynes a dau gi wedi marw wedi tân yn Nhowyn yn Sir Conwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i fyngalo yn Ffordd Gors am 08:48 ddydd Mercher wedi adroddiadau bod mwg yn llifo o'r eiddo.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod yr eiddo ar dân wrth i ddiffoddwyr gyrraedd a'u bod yn credu bod y ddynes a gafodd ei darganfod yn y tŷ yn ei 60au.

Bu farw yn fuan ar ôl cael ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Cafodd pedwar o griwiau eu danfon i'r eiddo o'r Rhyl, Bae Colwyn ac Abergele, a bu'n rhaid i ddiffoddwyr ddefnyddio offer anadlu wrth ymateb i'r digwyddiad.

Mae'r gwasanaeth tân a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos y tân.