Cyngor Sir Penfro'n bwriadu dileu tollau Pont Cleddau

  • Cyhoeddwyd
Pont Cleddau

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cyhoeddi eu bod wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru i ddileu tollau Pont Cleddau.

Mae'n bosib y gall unigolion sy'n defnyddio'r bont yn ddyddiol arbed hyd at £270 y flwyddyn.

Dywedodd yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am ddatblygiad economaidd, diwylliant a thwristiaeth, Paul Miller, fod dileu'r tollau wedi bod yn "flaenoriaeth iddo", a'i fod yn falch o gael gwared â "rhwystr annifyr" i fasnach yn yr ardal.

Ychwanegodd fod y cytundeb yn arwydd o "ddatblygiad cadarnhaol o fewn y sir".

Mae'r cyngor yn dweud y bydd y newid yn effeithio ar rhwng 25 a 30 o swyddi.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adleoli staff sydd yn wynebu diswyddo o ganlyniad i ddileu'r tollau. Ond, mi fydd hyn yn ddibynnol ar ddarganfod swyddi eraill addas o fewn yr awdurdod."

Mae disgwyl i'r newid ddod i rym ym mis Ebrill 2019.