Ni fydd Caerdydd yn gartref creadigol newydd i Channel 4

  • Cyhoeddwyd
Channel 4Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Channel 4 wedi cadarnhau na fydd safle yng Nghaerdydd yn rhan o gynlluniau'r sianel pan fydd yn symud 300 o staff o Lundain.

Roedd y brifddinas dan ystyriaeth i fod yn gartref i un o ganolfannau creadigol newydd y sianel.

Bydd pencadlys newydd Channel 4 yn cael ei leoli yn Leeds, a daeth cadarnhad y bydd y ddau ganolfan creadigol ym Mryste a Glasgow.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Er ein bod ni'n amlwg wedi siomi, rydyn ni'n edrych 'mlaen i allu cydweithio â Channel 4 yn y dyfodol".

Ychwanegodd fod y broses wedi dod â'r sector creadigol yng Nghaerdydd yn agosach at ei gilydd a bod sawl cwmni arall wedi symud i Gaerdydd ers dechrau'r broses.

Roedd Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, Gareth Williams, hefyd wedi ei siomi gan y penderfyniad, ond roedd yntau yn obeithiol am ddyfodol y sector yng Nghymru.

"Nawr fod y darlledwyr wedi gweld yr amrywiaeth a'r safon ar hyd y sector cynhyrchu yng Nghymru, rydym yn gobeithio gweld cyfleoedd cynyddol i gwmnïau Cymreig i ddarparu cynnwys ar gyfer Channel 4," meddai.