Trafodaethau 'adeiladol' rhwng Adam Price a Theresa May

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd Adam Price yn ymweld â Downing Street am y tro cyntaf fel Arweinydd Plaid Cymru

Mae arweinydd newydd Plaid Cymru wedi dweud ei fod wedi cael trafodaethau "defnyddiol" ac "adeiladol" gyda'r prif weinidog, Theresa May yn Downing Street.

Yn ôl Adam Price fe gafodd materion trethi a phwerau benthyg i Gymru eu trafod gyda Ms May mewn cyfarfod o tua 45 munud o hyd.

Dyma'r dro cyntaf i un o arweinwyr Plaid Cymru gynnal cyfarfod gyda phrif weinidog presennol yn Rhif 10, yn ôl y blaid.

Dywedodd Mr Price ei fod wedi "rhoi'r achos" dros Gymru.

'Gwahaniaeth barn'

Bu Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts hefyd yn bresennol.

"Cyfarfod defnyddiol iawn a dweud y gwir yn gynnar yn fy arweinyddiaeth," meddai Mr Price. "Bu'n gyfle i roi'r achos dros Gymru ac yn arbennig wrth gwrs yr achos economaidd."

Dywedodd bod yna "dipyn o wahaniaeth barn" rhwng y ddwy ochr ynghylch Brexit ond pwysleisiodd bod 'na dir cyffredin ar feysydd eraill.

Ychwanegodd ei fod yn obeithiol bod y prif weinidog "wedi gwrando ac adlewyrchu ar y cynigion y gwnaethom eu cyflwyno o ran dyfodol economaidd Cymru".

Fe honnodd Mr Price hefyd bod Cymru bron wedi bod yn "anweladwy" yn y misoedd a'r blynyddoedd diwetha'.

Dywedodd: "Yn y cyfnod pwysig yma pan rydym yn wynebu cyfnod tymhestlog o ganlyniad i Brexit, yn economaidd ac yn wleidyddol, mae'n holl bwysig bod llais Cymru'n cael ei chlywed."