Cais i godi arian i ailgysylltu rhan o'r llwybr arfordir
- Cyhoeddwyd
Wrth iddyn nhw wynebu bil o £100,000 i ailgysylltu rhan o lwybr arfordirol ar Benrhyn Gŵyr, mae swyddogion Cyngor Abertawe wedi gofyn i'r bobl leol i geisio codi arian i lenwi'r bwlch.
Cafodd wal fôr hanesyddol yng Nghwm Ivy ar gyrion pentre' Llanmadog ei difrodi mewn storm bedair blynedd yn ôl.
Agorodd y difrod fwlch yn y llwybr ac ers hynny mae'r llanw wedi troi'r tir yn gors.
Roedd y wal fôr hefyd yn gweithio fel llwybr arfordirol poblogaidd, ond ers y difrod mae yna broblemau wedi codi wrth geisio penderfynu sut i'w hailgysylltu, ac os oes angen gwneud hynny o gwbl hyd yn oed.
Nawr, mae Cyngor Abertawe am helpu'r bobl leol i adeiladu pont i gysylltu dwy ochr y wal drwy sefydlu cronfa arlein i bobl leol gyfrannu, yn hytrach nag ariannu'r cynllun yn uniongyrchol.
'Costio miloedd'
Ond yn ôl rhai yn y pentref mae'n annheg i ofyn i bobl leol i ateb y galw. Un o'r rheiny yw Sian Griffiths, sy'n rhedeg caffi "Cwm Ivy Cafe and Crafts" sydd wrth ymyl y llwybr.
"Fi ddim yn siŵr os ddylen ni fod yn cyfrannu ato fe, fi'n credu dyle'r cyngor wedi neud yn siŵr fod arian i gywiro fe...
"O'dd cronfa ar gael ond mae'r cyngor wedi cymryd shwt gymaint o amser i benderfynu os maen nhw'n mynd i adeiladu'r wal eto mae'r gronfa wedi rhedeg mas.
"Dyle nhw wedi neud rhywbeth o'r dechrau. O'dd y twll yn y wal i ddechrau yn un bach, a bydde fe wedi costio lot llai o arian yn y gorffennol os oedden nhw wedi neud e'n syth. Ond nawr mae'r twll yn enfawr ac mae'n mynd i gostio miloedd i atgyweirio fe."
Mae pobl leol wedi galw ar yr awdurdodau i adnewyddu'r wal fôr yn y gorffennol, ond cafodd y trigolion siom dwy flynedd yn ôl, wedi i Gyfoeth Naturiol Cymru dweud wrth berchnogion y tir, sef Cyngor Sir Abertawe, y byddai'n "anymarferol" i ailagor yr hen lwybr.
Nawr, mae trigolion Llanmadog yn wynebu brwydr hir i allu llenwi'r bwlch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2016