Dau enw newydd yn nhîm rygbi Cymru i herio'r Alban

  • Cyhoeddwyd
luke morgan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd asgellwr y Gweilch, Luke Morgan, yn ennill ei gap cyntaf dros ei wlad yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn

Mae dau enw newydd yn y tîm o 23 sydd wedi'i enwi gan Gymru ar gyfer gêm agoriadol Cyfres yr Hydref yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn.

Bydd Luke Morgan yn dechrau'r gêm ar yr asgell tra bod y maswr, Jarrod Evans yn dechrau ar y fainc.

Alun Wyn Jones fydd y capten, ac yn absenoldeb Dan Biggar a Rhys Patchell fe fydd Gareth Anscombe yn dechrau yn safle'r maswr.

Er bod y prif hyfforddwr, Warren Gatland wedi dychwelyd o Seland Newydd wedi marwolaeth ei dad yn ddiweddar, Rob Howley a wnaeth y cyhoeddiad.

"Roedd hi'n wych medru croesawu Warren yn ôl ddoe, ond ry'n ni wedi bod mewn cysylltiad cyson ag e, ac wedi dewis tîm cryf at y penwythnos," meddai.

"Yn dilyn gemau'r haf, mae gennym gryfder yn y garfan ac mae'n braf medru dod â saith o Lewod yn ôl i'r tîm.

"Mae gennym barch mawr at dîm Yr Alban, ac yn edrych ymlaen i'r hyn ddylai fod yn gêm agoriadol wych."

Tîm Cymru v Yr Alban:

Olwyr:

Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Luke Morgan, Gareth Anscombe, Gareth Davies;

Blaenwyr:

Nicky Smith, Ken Owens, Dillon Lewis, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capten), Dan Lydiate, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion:

Elliot Dee, Rob Evans, Leon Brown, Adam Beard, Aaron Wainwright, Tomos Williams, Jarrod Evans, Steff Evans.