Cefnogaeth 'anhygoel' i Doddie Weir yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Doddie WeirFfynhonnell y llun, SNS Group Ross Parker
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Doddie Weir, sy'n 48 oed, 61 o gapiau dros Yr Alban ac fe chwaraeodd dros y Llewod

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi Doddie Weir wedi dweud ei fod wedi derbyn cefnogaeth "anhygoel" yng Nghymru yn arwain at y gêm rhwng Cymru a'r Alban.

Ddechrau'r wythnos cafodd undebau rygbi'r ddwy wlad eu beirniadu pan ddaeth i'r amlwg na fydden nhw'n cyfrannu arian o'r gêm yn uniongyrchol tuag at elusen yn enw Mr Weir.

Cwpan Doddie Weir fydd y tlws i'r tîm buddugol pan fydd y ddwy wlad yn cwrdd yn Stadiwm Principality yng ngêm gyntaf cyfres yr hydref ddydd Sadwrn.

Mae'r gêm ar gyfer Sefydliad My Name'5 Doddie, a sefydlwyd wedi i gyn-glo'r Alban gael diagnosis o glefyd motor niwron.

Ond bellach mae'r undebau wedi cadarnhau y bydd swm "chwe ffigwr" yn cael ei roi i'r elusen, ac y bydd hynny ochr yn ochr ag ymgyrch i godi arian y tu allan i'r stadiwm.

Cymorth tu ôl i'r llenni

Wrth gael ei holi ar raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales, dywedodd Mr Weir: "Wyddwn i ddim os oedd [penderfyniad gwreiddiol yr undebau] yn ddiofalwch, ond tu ôl i'r llenni maen nhw wedi bod o gymorth mawr.

"'Dyn ni yma am benwythnos da yng Nghymru - mae'r gefnogaeth yma wedi bod yn anhygoel.

"Dwi wedi fy nghyffroi'n lân am y gêm. Mae Stadiwm Principality yn stadiwm sbesial iawn."