'Meddyliwch' cyn tynnu llun o wrthdrawiad ffordd
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n tynnu lluniau o wrthdrawiadau ffordd yn cael eu hannog i feddwl am ddioddefwyr a'u teuluoedd cyn uwchlwytho'r delweddau ar gyfrwng cymdeithasol.
Daw'r alwad gan grwpiau ymgyrchu sy'n dweud fod pobl yn gwneud hyn er mwyn cael "ymateb" yn dilyn cynnydd mewn lluniau o'r fath sy'n ymddangos ar-lein.
Y pryder mwyaf yw bod aelodau o deulu'r dioddefwyr yn dod i wybod am y gwrthdrawiadau cyn i'r heddlu ymateb.
Mae un elusen eisiau gweld pobl sy'n rhoi lluniau o wrthdrawiadau ar-lein yn cael eu herlyn.
Dywedodd y Sarjant Bob Witherall o Heddlu Gwent: "Ein pryder mwyaf yw pan mae pobl yn rhoi lluniau neu fideos o'r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol cyn i ni adnabod y rheiny sy'n rhan o'r digwyddiad a cyn i aelodau o'u teuluoedd ddod i wybod.
'Rhwystredig'
"Weithiau mae rhai pobl yn ymwybodol o ddigwyddiad cyn i'r heddlu allu cnocio ar eu drysau," meddai Mr Witherall.
"Mae'n rhwystredig. Mi faswn i'n cwestiynu bwriad pobl a'r rheswm pam eu bod nhw'n gwneud hyn. Ai i'n helpu ni? I ennyn diddordeb?
"Byddwch yn sensitif. Byddwch yn ymwybodol o beth yr ydych yn ei roi ar gyfryngau cymdeithasol. Meddyliwch am y teuluoedd sydd efallai ddim yn ymwybodol o'r amgylchiadau na beth ddigwyddodd."
Ychwanegodd Mr Witherall nad yw achosion fel hyn yn gyffredin yn rhanbarth Heddlu Gwent, ond ei fod yn digwydd yn amlach ar hyd a lled y DU.
Mae'r Athro Martin Graff o adran seicoleg Prifysgol Caerdydd yn credu fod pobl yn llai swil am dynnu lluniau a'u rhannu nhw ar-lein.
"Mae pobl yn gwneud hyn am eu bod nhw'n gallu," meddai.
"Tydi hyn ddim yr un peth â dweud neu wneud rhywbeth i wyneb rhywun arall. Maen nhw'n teimlo'n llai swil ar-lein.
"Dwi ddim yn deall pam fod pobl yn gwneud hyn yn y lle cyntaf.
Yn ôl yr Athro Graff: "Mae rhai pobl wrth eu boddau yn gweld pobl eraill yn hoffi eu deunydd ar-lein."
'Amharchus'
Yn ôl Kevin Clinton o'r elusen atal damweiniau ROSPA dylai pobl gael eu cosbi am dynnu lluniau wrth yrru.
"Mae cymryd llun neu fideo o ddamwain yn hynod o amharchus ac yn arferiad drwg.
"Pam fysa unrhyw un eisiau tynnu llun a'i roi ar y we? Mae'n israddio difrifoldeb y digwyddiad.
"Nid adloniant yw hyn. Wrth ddod ar draws damwain, yr ymateb cyntaf ddylai fod i helpu, nid i dynnu llun a'i ddefnyddio fel adloniant," meddai.