Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 0-1 Caerlŷr

  • Cyhoeddwyd
Demarai GrayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y tîm cyfan ynghyd i ddathlu gôl Demarai Gray

Bu'n fuddugoliaeth emosiynol i Gaerlŷr yn erbyn Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Er gwaetha'r canlyniad, roedd hi'n gêm anodd i'r ymwelwyr wrth iddynt chwarae am y tro cyntaf yn dilyn marwolaeth perchennog y clwb mewn trychineb trasig.

Daeth cefnogwyr y ddau dîm ynghyd cyn dechrau'r gêm i roi teyrnged i Vichai Srivaddhanaprabha a'r pedwar arall fu farw mewn damwain hofrennydd yr wythnos ddiwethaf.

Yn gynnar yn yr ail hanner sgoriwyd unig gôl y gêm gan Demarai Gray.

Argraffiadau Gareth Blainey, sylwebydd pêl-droed BBC Cymru:

Ar brynhawn emosiynol iawn yn y stadiwm roedd nifer fawr o olygfeydd trawiadol cyn y gic gynta'.

Un ohonyn nhw oedd baner anferth â logo Caerdydd a logo Caerlŷr arni ac ynghanol y faner honno, baner lai Gwlad Thai, mamwlad Srivaddanaprabha, ac mi gafodd y faner honno ei symud gan gefnogwyr Caerdydd at gefnogwyr Caerlŷr oedd yn un o gorneli'r stadiwm.

Roedd hi'n amlwg fod nifer o chwaraewyr Caerlŷr dan deimlad yn ystod y munud o dawelwch cyn y gic gynta', yn enwedig y golwr Kasper Schmeichel oedd mewn dagrau; ac ar ôl y chwiban ola aeth Schmeichel a'i gyd-chwaraewyr draw at gefnogwyr y clwb i ddiolch iddyn nhw.

Mae cefnogwyr pêl-droed yn cael eu beirniadu yn aml am eu hymddygiad a'u hagwedd yn gyffredinol felly mae hi'n beth braf gallu canmol cefnogwyr Caerdydd.

Pan gerddodd chwaraewyr Caerlŷr i'r maes cyn y gêm fe gawson nhw gymeradwyaeth gynnes gan gefnogwyr y tîm cartre', ac arhosodd y dorf yn hollol dawel yn ystod y munud o dawelwch.

Gwnaethon nhw ddangos parch i Gaerlŷr ar brynhawn trist ac anodd i bawb sy'n gysylltiedig â'r clwb o Ganolbarth Lloegr.