Grŵp hanes yn gwireddu breuddwyd gweddw'r Rhyfel Mawr
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o haneswyr o ardal Wrecsam wedi teithio i Ffrainc i wireddu dymuniad gwraig weddw gollodd ei gŵr yn y Rhyfel Mawr.
Roedd Frank Evans o Ddyffryn Moss yn un o'r Ffiwsiliwyr Cymreig. Bu farw ym mis Hydref 1918 a chafodd ei gladdu ym Mynwent Filwrol Estaples yn Ffrainc.
Flwyddyn yn ddiweddarach, anfonodd ei weddw, Hannah Evans, ddarn o farddoniaeth at bapur newydd y Wrexham Advertiser - gan ymbil ar ffurf cerdd i unrhyw un sy'n ymweld â'r fynwent osod tusw o flodau ar ei rhan.
'Wnaeth 'nghyffwrdd i'
Daeth aelod o Grŵp Hanes Ardal Brychdyn o hyd i'r apêl wrth chwilio mewn archif.
"Fe wnaeth o 'nghyffwrdd i," meddai Phill Coops, aelod o'r grŵp.
"Roedden ni wrthi'n trefnu taith i Ffrainc a Gwlad Belg ac fe benderfynais bod yn rhaid i ni roi teyrnged i Frank achos y gerdd.
"Aethom ni â blodau o Gymru efo ni, ac yn bwrpasol mynd i'r fynwent honno ar y diwrnod cyntaf."
Gwireddu dymuniad
Mr Coops osododd y tusw ar y bedd.
"Roedd o'n brofiad emosiynol a thrist iawn," meddai, "ond roedden ni'n teimlo ein bod wedi cyfrannu at wireddu dymuniadau Hannah a'r ffaith ei bod hi eisiau i rywun osod blodau ar fedd ei gŵr.
"Ac fe wnaethom ni hynny, gan ddod o'r gymuned oedd yn gartre' iddi."
Mae enwau tua 90 o filwyr fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf i'w gweld ar gofeb rhyfel cymuned Brychdyn ym mhentref Bryn-teg.
Ond mae ymchwil y grŵp hanes yn awgrymu y gallai nifer y meirw o'r ardal fod, mewn gwirionedd, mor uchel â 130.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd13 Awst 2018
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2018