Cynghrair y Cenhedloedd: Bale a Ramsey yn ôl i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Gareth Bale ac Aaron Ramsey wedi'u henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm dyngedfennol yn erbyn Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Er i'r ddau gael eu henwi yn y garfan ddiwethaf, roedd y ddau yn absennol yn y fuddugoliaeth yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym mis Hydref.
Roedd gan Bale anaf, ac fe fethodd y gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen hefyd.
Er i Ramsey chwarae yn y gêm honno, fe fethodd y gêm yn Nulyn ychydig ddyddiau'n ddiweddarach oherwydd genedigaeth ei efeilliaid.
Bydd Cymru'n herio Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 16 Tachwedd, gyda'r enillydd yn sicrhau eu bod yn gorffen ar frig Grŵp B4.
Bydd y garfan yn teithio i Albania bedwar diwrnod yn ddiweddarach ar gyfer gêm gyfeillgar.
Mae Neil Taylor, Tom Lockyer a Dan James yn cymryd lle Ben Davies (sydd wedi'i wahardd ar gyfer y gêm yn erbyn Denmarc), Declan John a Jazz Richards.
Mae yna un enw annisgwyl hefyd, gyda James Lawrence - amddiffynnwr 26 oed sy'n chwarae i Anderlecht yng Ngwlad Belg a gafodd ei eni yn Lloegr - ymhlith y garfan o 26.
Carfan Cymru i wynebu Denmarc ac Albania:
Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Barnsley);
Connor Roberts (Abertawe), Chris Gunter (Reading), Ashley Williams (c) (Everton ar fenthyg yn Stoke), James Chester (Aston Villa), Chris Mepham (Brentford), Ethan Ampadu (Chelsea), Tom Lockyer (Bristol Rovers), James Lawrence (Anderlecht), Paul Dummett (Newcastle), Neil Taylor (Aston Villa);
Joe Allen (Stoke), Matt Smith (Manchester City ar fenthyg yn FC Twente), Aaron Ramsey (Arsenal), Andy King (Caerlŷr), George Thomas (Caerlŷr ar fenthyg Scunthorpe), Harry Wilson (Lerpwl ar fenthyg yn Derby County), David Brooks (Bournemouth), Daniel James (Abertawe);
Ben Woodburn (Lerpwl ar fenthyg yn Sheffield United), Tom Lawrence (Derby County), Tyler Roberts (Leeds United), Sam Vokes (Burnley), Gareth Bale (Real Madrid).