Cymry Cyngres America

  • Cyhoeddwyd
Capitol

Wrth i etholiadau canol tymor America gael eu cynnal heddiw mae'n gyfle i olrhain hanes rhai o'r Cymry sydd wedi chwarae rhan yng ngwleidyddiaeth y wlad. Pwy fuasai'n meddwl y byddai 'chydig o dân y Ddraig Goch yng nghynteddau'r Capitol yn Washington DC?

Heb os y gwleidydd o dras Cymreig gafodd yr yrfa fwyaf llewyrchus oedd James John Davies. Fe ymfudodd o a'i deulu i'r Unol Daleithiau o Dredegar yn 1881 pan roedd o'n 8 oed. Er bod y dogfennau swyddogol yn dangos mai Davis oedd ei gyfenw roedd o ei hun bob tro yn arddel y sillafiad Cymraeg, Davies.

Dechreuodd ei yrfa mewn gwaith dur yn nhalaith Pennsylvania ble roedd yn helpu efo'r gwaith o droi haearn toddedig. Dyna sut y cafodd ei lysenw 'Puddler Jim'.

Gweinyddwr abl

Am gyfnod symudodd i dalaith Indiana a daeth yn un o brif weinyddwyr Madison County. Wedi iddo ddychwelyd i Pittsburgh, daeth ei gryfder fel gweinyddwr i sylw'r Tŷ Gwyn a rhwng 1921 a 1930 gwasanethodd fel Ysgrifennydd Llafur yng nghabinet tri Arlywydd - Warren G Harding, Calvin Coolidge a Herbert Hoover.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Seneddwr James J Davis

Llwyddodd i berswadio perchnogion y gweithfeydd dur i ddod â'r diwrnod gwaith 12 awr i ben, ond roedd o hefyd yn benderfynol o gyfyngu ar hawliau gweithio mewnfudwyr a roedd yn cefnogi rhai syniadau sy'n cael eu cysylltu gyda ewgeneg (eugenics), maes dadleuol a oedd yn ennill ei blwyf ar y pryd.

Ymddiswyddodd fel Ysgrifennydd Llafur yn 1930 ar ôl cael ei ethol yn Seneddwr dros Pennsylvania. Collodd ei sedd yn 1944. Erbyn hynny doedd o ddim yn boblogaidd ymhlith y gweithwyr. Roedden nhw yn teimlo bod Davies wedi bradychu ei gefndir diwydiannol a'i fod yn cael ei ddylanwadu yn rhy hawdd gan gyflogwyr.

Tra roedd gyrfa wleidyddol 'Puddler Jim' yn dirwyn i ben roedd 'na Gymro arall yn gwneud ei farc yng ngwleidyddiaeth America.

O frwydro ar faes y gâd i frwydrau gwleidyddol

Cyn symud i America roedd Edward Vivian Robertson o Gaerdydd wedi bod yn filwr yn y Gatrawd Gymreig yn Ail Ryfel y Boer y Ne Affrica. Wedi cyfnod fel peiriannydd fe ymfudodd i dalaith Wyoming yn America yn 1912 ble bu'n ffermio ac yn rhedeg busnes ariannol.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Edward Vivian Robertson, y milwr a ddaeth yn wleidydd

Cafodd ei ethol yn Seneddwr Gweriniaethol y dalaith yn 1942. Collodd ei sedd yn etholiadau 1948 ac ymddeolodd o'r byd gwleidyddol pan ddaeth ei dymor i ben ar ddechrau 1949.

Symudodd i dalaith Oregon yn 1958 a bu farw yno yn 1963.

Hefyd o ddiddordeb...

Gŵr amryddawn o Benllyn

Yn ogystal ag ethol cynrychiolwyr i siambr ucha'r Gyngres, bydd yr Americanwyr hefyd yn ethol aelodau i Dŷ'r Cynrychiolwyr. Hyd y gwyddon ni dim ond un Cymro sydd wedi ei ethol i'r siambr isaf, a gŵr o Llanuwchllyn oedd hwnnw.

Athro oedd John Richards wnaeth fudo i America a gwneud ei gartref, yn addas iawn, mewn tre o'r enw Johnsburg yn nhalaith Efrog Newydd. Daeth yn Oruchwylydd y dre yn 1807 gan wasanethu am sawl tymor.

Daeth yn aelod o Gynulliad talaith Efrog Newydd y 1811 a bu'n gweithredu fel syrfewr y dalaith. Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cynrychiolwyr yn yr etholiadau canol tymor yn 1823 pan roedd John Monroe yn Arlywydd. Penderfynodd beidio ymladd yr etholiad nesaf yn 1825.

Aeth yn ôl i fyw yn Lake George ond mi wnaeth barhau i wasanaethu'r Llywodraeth. Bu'n Farnwr Warren County a defnyddiodd ei wybodaeth fel syrfewr i lunio mapiau o fynyddoedd Adirondack. Roedd o'n berchen hefyd ar dros 1,000 o erwau a bu'n gysylltiedig gyda ffermio a'r diwydiant haearn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lake George... atgoffa John Richards o Lyn Tegid a'r Arenig?

Gweledigaeth am Gymru newydd

Roedd yn sgwennu llythyrau at ei deulu yng Nghymru yn aml mewn Cymraeg graenus. Mae'n sôn yn un ohonyn nhw am ei bryder am y tlodi mawr yn ei famwlad. Mae o'n crybwyll hefyd ei fod wedi dod o hyd i ddigon o dir heb ei berchen i bawb yng Nghymru fedru byw yno yn gyfforddus.

'Chydig a wyddai Richards y byddai gŵr arall o Lanuwchllyn yn cael gweledigaeth debyg bymtheg mlynedd wedi ei farwolaeth. Dyna pryd yr arweiniodd Michael D Jones griw o Gymry ar y Mimosa i fywyd newydd ym Mhatagonia.

Bu farw John Richards yn Lake George yn 1850. Mae'r fynwent ble cafodd o ei gladdu, yn addas iawn, wedi ei henwi ar ei ôl.