Ergyd i 220 o staff Schaeffler wrth gau safle Llanelli
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni sy'n cyflenwi nwyddau diwydiannol a modurol yn Llanelli, gan gyflogi 220, yn dweud eu bod am gau eu ffatri yn y dref.
Cyhoeddodd Schaeffler eu bod am gau dau safle yn y DU - yn Llanelli a Plymouth.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi dechrau ar gyfnod ymgynghori 45 diwrnod ynglŷn â'r broses o gau'r safle.
Y gred yw y gallai tua 500 o swyddi gael eu heffeithio dros y DU.
Ychwanegodd y cwmni bod "ansicrwydd" ynghylch Brexit yn un o'r ffactorau y tu ôl i'r penderfyniad.
'Ergyd i'r ardal'
Mewn datganiad dywedodd y cwmni: "Rydym yn disgwyl y bydd y cynlluniau ad-drefnu yn cymryd hyd at ddwy flynedd i'w cwblhau.
"Fe wnaeth y cwmni gymryd i ystyriaeth mai dim ond 15% o'r nwyddau sy'n cael eu cynhyrchu yn y DU sy'n aros yn y wlad, tra bod y mwyafrif helaeth yn cael eu hallforio i gyfandir Ewrop.
"Roedd yr ansicrwydd ynghylch Brexit yn un ffactor ymhlith eraill wrth i ni gynnal ymchwiliad o'r farchnad yn y DU."
Mewn sylwadau pellach ddydd Mawrth fodd bynnag, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Schaeffler yn y DU, Greig Littlefair bod "Brexit yn ystyriaeth fechan o fewn y darlun mawr".
Dywedodd nad oedd yr ansicrwydd ynghylch Brexit o gymorth, ac y byddai'n well gan y cwmni weld ffiniau yn aros ar agor i fasnach.
Ond ychwanegodd fod galw am y nwyddau oedd yn cael eu cynhyrchu yn Llanelli hefyd yn gostwng, oherwydd newidiadau yn y farchnad geir.
Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Nia Griffith fod y newyddion yn sioc a bod y cwmni wedi bod yn gyflogwr pwysig yn yr ardal am nifer o flynyddoedd.
"Yn amlwg rwy'n poeni am effaith hwn ar deuluoedd ac effaith posib ar fusnesau eraill yn lleol.
"Mae bwysig ein bod ni'n cynnig cymorth i'r cwmni i geisio eu perswadio i ailfeddwl."
Dywedodd hefyd fod y penderfyniad yn dangos yr "angen am gynllun Brexit mwy eglur er mwyn rhoi sicrwydd i gwmnïau a gweithwyr a rhoi terfyn ar y cyfnod o ansicrwydd".
'Amser anodd' i bobl Llanelli
Dywedodd cynghorydd sir Bynea, Deryk Cundy, fod y newyddion yn gwbl annisgwyl ac yn ergyd i'r ardal.
"Mae hyn yn nifer fawr o swyddi ac yn swyddi a chyflogau da," meddai'r cynghorydd, sy'n ddirprwy arweinydd y grŵp Llafur ar Gyngor Sir Gâr.
"Bydd hwn yn ergyd i Fynea, Llanelli, Sir Gaerfyrddin ac ardal ehangach. Nes i ond clywed y bore 'ma, mae'n syndod.
"Rydym wedi siarad â'n cynrychiolwyr yn y Cynulliad a San Steffan. Mae angen sefydlu tasglu i weld a allwn roi perswâd ar y cwmni i ailfeddwl."
Efallai o ddiddordeb
Yn ôl David Darkin, cadeirydd siambr fasnach Llanelli, roedd y newyddion yn "drueni nid yn unig i'r gweithwyr a'u teuluoedd ond i'r holl gymuned".
"Bydd effaith ar fusnesau eraill sy'n masnachu i Schaeffler yn colli mas hefyd. Felly mae amser anodd o'n blaenau ni i bobl Llanelli."
"Mae beth ni wedi clywed o'r diwydiant wedi bod yn dda yn ddiweddar felly mae beth ni wedi clywed heddiw yn dipyn o sioc."
Cynllunio at y dyfodol
Dywedodd Juergen Ziegler, prif weithredwr Schaeffler yn Ewrop: "Mae'n amlwg nad Brexit yw'r unig ffactor allweddol o ran y farchnad yn y DU, ond mae'r angen i ni gynllunio ar gyfer posibiliadau cymhleth i'r dyfodol wedi golygu ei fod yn rhaid dod i benderfyniad yn gynt."
Bydd y gwaith cynhyrchu yn cael ei adleoli i'r Unol Daleithiau, China, De Corea a'r Almaen.
Mae gan Schaeffler hefyd safle yn Sheffield fydd ddim yn cael ei effeithio gan y newidiadau.
Mewn ymateb dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fod y newyddion yn "tanlinellu pwysigrwydd cael cytundeb rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd" yn y trafodaethau Brexit.
"Mi fyddwn ni'n cydweithio gyda'r cwmni... [a] Llywodraeth Cymru i gael gweld beth yn gymwys yw'r problemau maen nhw'n gweld," meddai.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod gan Lywodraeth y DU "gwestiynau difrifol i'w hateb" o ganlyniad i'r ansicrwydd roedd Brexit wedi ei achosi.
"Mae angen i fusnesau gael eglurder a hyder na fydd y cytundeb sy'n cael ei tharo yn un fydd yn effeithio'n negyddol arnyn nhw," meddai.
Mynnodd Plaid Cymru fod "polisïau dinistriol" Llafur a'r Ceidwadwyr ar Brexit ar fai, gan ddweud y byddai rhagor o fusnesau yng Nghymru'n cael eu niweidio oni bai bod y DU yn aros yn y farchnad sengl a'r Undeb Tollau.
"Dyma fydd realiti economaidd Brexit. Mae angen sicrwydd ar y trafodaethau cyn mis Mawrth," meddai Helen Mary Jones AC.