Dyn yn pledio'n ddieuog i ddwyn gemwaith o Amgueddfa Sain Ffagan

Sain Ffagan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sain Ffagan wedi gwarchod eitemau hanesyddol Cymru ers iddi agor ei drysau yn 1948

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a gafodd ei gyhuddo o ddwyn gemwaith aur o'r Oes Efydd o Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan wedi pledio'n ddieuog mewn llys.

Fe wnaeth Gavin John Burnett, 43, o Berrywood Close, Northampton ymddangos drwy gyswllt fideo i Lys y Goron Northampton ddydd Mercher.

Fe blediodd yn ddieuog i ladrad arteffactau a gemwaith o'r amgueddfa ar 6 Hydref.

Gwadodd hefyd tri chyhuddiad arall gan gynnwys cynllwynio i gyflawni lladrad, cynllwynio i ddwyn cerbyd modur a bygwth lladd yn Sir Northampton rhwng 28 Gorffennaf ac 14 Awst.

Mae'n parhau yn y ddalfa, ac mae disgwyl i'w achos gychwyn fis Ebrill.

Fe wnaeth ei gyd-ddiffynnydd Darren Paul Burnett, 50, o Sharrow Place, Northampton hefyd ymddangos drwy gyswllt fideo ond ni wnaeth bledio.

Mae disgwyl iddo ymddangos eto ar gyfer gwrandawiad ar 11 Rhagfyr.

Dywedodd yr erlynydd Chris Harper wrth y llys fod archwiliad fforensig o'r arddangosfeydd yn parhau.

Mae'r ddau ddyn wedi eu cadw yn y ddalfa.

Pynciau cysylltiedig