Cyn-heddwas wedi marw ar ôl cael ei daro gan fan ger Caernarfon

Geraint JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Geraint Jones, 64, ar 9 Tachwedd

  • Cyhoeddwyd

Cafodd cyn-heddwas ei daro gan fan ar ffordd osgoi ger Caernarfon, mae cwest wedi clywed.

Fe glywodd y gwrandawiad yng Nghaernarfon fod Geraint Jones, 64 oed o Fangor, wedi marw ar ôl cael ei daro gan fan Ford Transit wrth gerdded ar yr A487 ffordd osgoi Caernarfon ger Y Bontnewydd ar 9 Tachwedd.

Fe glywodd y cwest fod Mr Jones, a oedd yn wreiddiol o'r Felinheli, wedi ei gadarnhau'n farw ar safle'r digwyddiad am 20:46.

Dywed Crwner Cynorthwyol gogledd orllewin Cymru, Sarah Riley, fod archwiliad post mortem wedi canfod mai achos ei farwolaeth oedd anaf difrifol i'w ben, ei frest a'i abdomen.

Fe gafodd y cwest ei ohirio wrth i ymchwiliadau barhau.

Fe wnaeth aelodau o'i deulu rhoi teyrnged i Mr Jones yn dilyn y gwrthdrawiad gan ddweud: "Rydym wedi ein llorio o golli gŵr, tad a thaid annwyl.

"Mae Geraint yn gadael ei wraig, Mary, ei feibion, Richard a Patrick, ei wyres Ella a'i wyrion Leo ac Isaac."

Straeon perthnasol