Pedwar yn y llys am gam-drin merched ifanc yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae pedwar dyn wedi ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi eu cyhuddo o dreisio a masnachu rhyw yn erbyn merched ifanc yn ardal Wrecsam.
Clywodd y llys fod John Delaney, John Purcell, Todd Wickens a John McGrath wedi "defnyddio" y merched, oedd yn 15 oed ar y pryd, ar gyfer eu dibenion eu hunain rhwng Rhagfyr 2011 ac Ebrill 2012.
Yn ôl yr erlyniad roedd y pedwar ohonynt yn casglu'r merched o gartref plant ym Mrymbo mewn faniau a cherbydau.
Mae'r pedwar ohonynt, sydd yn dod o'r gymuned deithwyr, yn wynebu cyfanswm o 19 cyhuddiad yn eu herbyn.
'Gorfod gwneud pethau'
Clywodd y llys fod un o'r merched wedi symud i'r cartref o Lannau Mersi, a'i bod wedi dechrau ymwneud ag aelodau o'r gymuned deithwyr yn fuan ar ôl symud i Frymbo.
Dywedodd yr erlynydd John Philpotts bod y ferch wedi dechrau gadael y cartref yng nghwmni merch arall o'r un cartref, a merch o gartref arall yn Wrecsam.
Roedd y dynion, meddai, yn rhoi alcohol iddyn nhw ac yn mynd â nhw i fannau diarffordd, neu westai ym Mhentre Helygain a Chaer ble byddai dynion eraill hefyd yn eu cam-drin.
"Roedd y diffynyddion yma'n gwybod yn iawn faint oedd oed y merched yma, ac yn wir, roedd eu hoedran ifanc fel petai'n eu cyffroi nhw," meddai Mr Philpotts.
"Roedden nhw hefyd yn gwybod, er bod y merched yn ufuddháu, nad oedd y merched wirioneddol wedi cydsynio i beth oedd yn digwydd iddyn nhw."
Dywedodd un o'r merched ei bod wedi teimlo fel ei bod hi'n "gorfod" gwneud y pethau roedd y dynion yn gofyn iddi wneud.
"Weithiau byddai'r merched yn cael eu gwahanu ac yn cael gwybod y bydden nhw'n cael dod yn ôl at ei gilydd petawn nhw'n cyflawni gweithredoedd rhyw," ychwanegodd Mr Philpotts.
"Ar adegau eraill byddai'r dynion yn bygwth eu gadael nhw rhywle'n bell o adref. Byddai'r dynion yn rhoi pwysau ar y merched nes eu bod nhw'n ymostwng.
"Byddai gweithredoedd rhyw yn digwydd bob tro roedden nhw'n cyfarfod."
Mae'r pedwar dyn yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn ac mae'r achos yn parhau.