Gwasanaethau radioleg yn 'anghynaladwy' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Scan

Mae gwasanaethau radioleg yn anghynaladwy er iddyn nhw gael eu rheoli'n dda a chyrraedd targedau amseroedd aros, yn ôl adroddiad.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol y byddai cynnydd yn y galw, anawsterau recriwtio a chadw staff, diffyg offer sganio a phroblemau technoleg gwybodaeth yn creu problemau yn y dyfodol.

Daw'r casgliadau wrth i Goleg Brenhinol y Radiolegwyr ddweud bod dros 4,800 o gleifion angina wedi methu â chael sganiau allai achub bywyd, gan fod ysbytai Cymru ond wedi cwblhau 20% o'r profion oedd eu hangen.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld gwelliant i amseroedd aros.

Dechreuodd adolygiad yn 2016 i ystyried trefniadau'r byrddau iechyd i gyrraedd anghenion radioleg.

Daeth i'r canlyniad bod:

  • Gwelliant mewn amseroedd aros dros y pum mlynedd diwethaf;

  • Mwy o alw - hyd at 15% mewn rhai ardaloedd;

  • Pob bwrdd iechyd ond un yn cael trafferth recriwtio a chadw staff radioleg;

  • Mae gan bob bwrdd iechyd offer sy'n dod at ddiwedd ei oes.

Ychwanegodd yr adroddiad: "O ystyried natur rhai o'r materion y mae gwasanaethau radioleg yn eu hwynebu, ni fydd y camau a gymerir gan fyrddau iechyd ar eu pennau eu hunain yn ddigon i sicrhau bod gwasanaethau radioleg yn gynaliadwy yn y dyfodol."

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, bod y gwasanaeth radioleg yn rhan "hollbwysig" o'r GIG, ond yn "wasanaeth dan straen" sy'n "annhebygol o allu parhau [i ymdopi] yn y dyfodol".

Ychwanegodd bod yr adroddiad yn gwneud argymhellion clir, gan alw ar y llywodraeth i'w gweithredu.

'Amseroedd aros wedi gwella'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "Cymru yw'r unig wlad yn y DU i wella amseroedd aros".

"Drwy fuddsoddiad ychwanegol rydyn wedi dyblu maint y rhaglen hyfforddi radioleg yng Nghymru.

"Rydyn ni hefyd wedi creu Academi Ddelweddu Genedlaethol i gynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i hyfforddi mwy o radiolegwyr."