Matthew Rhys: Ysu i wneud ffilm am Owain Glyndŵr
- Cyhoeddwyd
Mae'r actor o Gaerdydd, Matthew Rhys, yn dathlu ei benblwydd yn 44 oed heddiw ac yn dyheu am noson o gwsg fel anrheg delfrydol yn dilyn genedigaeth ei fab.
Meddai Matthew mewn cyfweliad gyda Dewi Llwyd ar Radio Cymru: "Sai'n teimlo bod fi wedi cysgu yn iawn am ddwy flynedd a hanner felly fyddai unrhyw gwsg yn cael ei dderbyn yn wresog iawn!"
Mae hefyd wedi bod yn gyfnod prysur a llwyddiannus yng ngyrfa seren The Americans a The Post wedi iddo gyrraedd y brig gan ennill Emmy eleni ar gyfer y Prif Actor mewn Drama am ei ran yn The Americans.
Cyllell â dwy fin
Meddai Matthew: "I ryw raddau dw i wedi cyrraedd rhyw fath o nod yn fy ngyrfa ond gyda'r teimlad yna mae'r teimlad arall yma o feddwl falle fod 'na mwy o bwysedd ar gyfer y perfformiad yma a sut ydw i'n dal â'r afael yma?
"Mae e'n sicr yn gyllell â dwy fin."
Fel golygfa o ffilm
Meddai'r actor, sy'n byw yn Brooklyn, Efrog Newydd: "Dw i dal yn cael sioc pan dw i'n meddwl bod mab fi wedi cael ei eni yn Brooklyn. Mae'n rhywbeth mor ddierth, mor estron i fi.
"Yn aml dw i'n cerdded e yn ei pushchair dros Bont Brooklyn gyda Manhattan yn y cefn. Mae'n fy mwrw i yn ddyddiol taw hwn fydd ei filltir sgwâr e, hwn fydd e'n galw'n adref. Ac i fi mae fel rhyw olygfa o rhyw ffilm!"
Cysylltiad â Chymru yn parhau
Meddai Matthew, sy'n siarad Cymraeg â'i fab: "Dyna'i gyd mae e'n clywed wrthaf i. Mae ei gyfri e'n dod mlaen yn dda a'i liwiau; mae e bron yn gallu cyfri i 10 yn Gymraeg.
"Mae'r awydd am Gymru yno o hyd a dw i'n siŵr byth bythoedd. Ni'n dod adref mor aml a gallwn ni.
"Dw i wedi bod yn gweitho ar brosiect Owain Glyndŵr am flynyddoedd maith ond mae ariannu rhywbeth fel 'na, yn sicr os ti'n dweud 'hoffwn i wneud e yn y Gymraeg gyda is-deitlau', ti'n clywed y drws yn cau yn glep.
"Os yw'r prosiect a'r amseru yn iawn, bydden i'n dod adref mewn eiliad gron."
Gwrandewch ar gyfweliad Matthew Rhys ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul, Radio Cymru
Mwy ar Cymru Fyw