Adroddiad arbennig: Hedd Wyn
- Cyhoeddwyd

Yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917 cafodd y Gadair orchudd du ei daenu drosti, yn hytrach na'r bardd buddugol yn eistedd ynddi.
Hedd Wyn oedd y bardd buddugol gyda'i awdl Yr Arwr ond ychydig wythnosau ynghynt ar 31 Gorffennaf cafodd Ellis Humphrey Evans ei ladd ar ddiwrnod cyntaf brwydr enbyd Passchendaele yn y Rhyfel Mawr.
Mae Cymru Fyw wedi llunio adroddiad arbennig sy'n edrych yn ôl ar hanes Hedd Wyn, o'i fagwraeth ar fferm Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd hyd at y seremoni unigryw yn y Brifwyl.
>> CLICIWCH YMA AM ADRODDIAD ARBENNIG GAN CYMRU FYW YN OLRHAIN HANES HEDD WYN <<
