Ffrae yn codi am berfformiad corff codi safonau addysg
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae wedi datblygu ynglŷn â pherfformiad y corff sy'n gyfrifol am godi safonau ysgolion yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Rhybuddiodd cynghorwyr bod perygl y byddai ysgolion y rhanbarth yn cael eu gadael ar ôl heb welliannau i gorff Ein Rhanbarth ar Waith (ERW).
Mae un cyngor yn bygwth peidio talu £40,000 tuag at gyllideb ERW os nad yw'r problemau'n cael eu datrys.
Dywedodd llefarydd ar ran ERW eu bod yn rhoi cynllun yn ei le i ddod i'r afael â'r sefyllfa.
Cwricwlwm newydd
Gadawodd y rheolwr gyfarwyddwr ei swydd yn ddiweddar a dywedodd Llywodraeth Cymru bod swyddog wedi ei fenthyg i ERW "i gefnogi'r corff".
Mae ERW yn un o bedwar consortiwm rhanbarthol ac mae'n gweithio gydag ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys.
Sefydlwyd y consortia yn 2012 ac maen nhw'n dosbarthu grantiau ac i fod i wella safonau mewn ysgolion ar ran y cynghorau.
Mae llythyr gan bwyllgor archwilio o gynghorwyr o'r chwe awdurdod yn crybwyll diffyg cynnydd wrth gyflwyno diwygiadau a galw am "amserlen glir a chynllun gweithredu... ar frys".
Dywedodd y cynghorwyr eu bod yn poeni am yr effaith posibl ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd mewn ysgolion.
Yn ôl y llythyr, mae'r strwythurau ar gyfer gwneud hynny'n llwyddiannus yn ymddangos un ai'n "annigonol neu'n absennol".
"Mae'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm yn symud ymlaen a gallwn ni ddim gadael i'n rhanbarth gael ei gadael ar ôl," meddai'r llythyr.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams sôn am ei phryderon hi mewn cyfarfod ym mis Mawrth.
Yn ôl llythyr arall gan gynghorwyr yn dilyn y cyfarfod, roedd Ms Williams o'r farn bod ERW mewn perygl o beidio gwneud y gorau dros blant y rhanbarth os nad oedd gwelliannau'n cael gwneud.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod wedi codi pryderon ynglŷn â'i strwythur a'r trefniadau llywodraethu mewn cyfarfod ym mis Mawrth.
Pryder cyngor
Yn y cyfamser dywedodd un cyngor eu bod yn ystyried pob opsiwn, wedi iddi ddod i'r amlwg nad ydyn nhw wedi talu eu cyfraniad tuag at gyllideb ERW.
Dywedodd awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot bod ganddyn nhw "nifer o bryderon" ynglŷn â gwaith ERW gydag ysgolion.
Yn ôl llefarydd: "Mae'n rhaid i anghenion ein disgyblion, a'r ysgolion maen nhw'n mynychu, ddod uwchlaw popeth, ac fe wnawn ni weithredu'n gadarn os ydyn ni o'r farn bod hynny'n cael ei gyfaddawdu mewn unrhyw ffordd."
Ychwanegodd: "Ble dydy gweithredu rhanbarthol ddim yn effeithiol, mae gennym gyfrifoldeb i herio a newid, yn enwedig pan mae ysgolion yn dweud hynny'n glir wrthym ni."
Cadarnhaodd llefarydd ar ran ERW bod y Rheolwr Gyfarwyddwr blaenorol, Betsan O'Connor wedi gadael ei swydd i weithio ar brosiect ar ysgolion bach a gwledig.
"O ganlyniad, fe gafodd Geraint Rees, cyn-brifathro ac ymgynghorydd i lywodraeth Cymru, ei benodi i oruchwylio rheolaeth ERW o ddydd i ddydd," meddai'r llefarydd.
"Rydyn ni'n rhoi cynllun yn ei le i ddod i'r afael a'r materion sydd wedi codi, ac fe fydd Geraint yn gweithio'n agos gyda'r cyfarwyddwyr i wneud ein cydweithio rhanbarthol yn ne orllewin a chanolbarth Cymru y mwyaf effeithiol yng Nghymru."