Heddlu: 'Cyfieithu ar y pryd yn afresymol ac anghyfartal'
- Cyhoeddwyd
Mae bargyfreithwyr wedi galw ar heddluoedd yng Nghymru i beidio ag ildio eu cyfrifoldebau i gynnal cyfweliadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ers sawl blwyddyn bellach, mae gan berson sy'n siarad Cymraeg yr hawl i gael eu cyfweld drwy ddefnyddio'r iaith o'u dewis nhw.
Bellach, mae nifer o brif gwnstabliaid yng Nghymru wedi herio'r safonau a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg mewn cyfweliadau'r heddlu.
Mae'r safonau yn gofyn i'r heddlu ddefnyddio dull cyfieithu ar y pryd yn hytrach na'r dull presennol, pan fydd y cyfieithydd yn crynhoi'r sylwadau fesul dipyn.
'Achosi anawsterau'
Yn ôl sawl prif gwnstabl, mae darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn "afresymol" ac "anghyfartal."
Maen nhw'n dadlau fod cynnig gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn "amharu ar lif cyfweliad allai achosi anawsterau gydag ymchwiliadau".
Er hynny mae bargyfreithwyr yn honni nad yw hyn yn wir a bod cyfieithu fesul dipyn yn amharu'n fwy.
Yn ôl Cyngor y Bar a Chyngor Arolygu Cyfreithiau, mae cyfieithu fesul dipyn yn golygu fod y sawl sy'n cael ei gyfweld yn cael mwy o amser i feddwl am atebion ac felly yn annheg.
Maen nhw'n credu byddai cyfieithu ar y pryd yn decach.
Dywedodd y bargyfreithiwr Rhodri Williams QC: "Dydy Cyngor y Bar ddim yn cytuno gyda Phrif Gwnstabliaid yng Nghymru achos bod o'n hollol bosibl cael cyfieithu ar y pryd.
"Mae'n gwneud llawer o synnwyr, mae 'na gyfieithwyr sy'n bodoli ar y farchnad ac sy'n cynnig gwasanaethau ac mae'n digwydd pob dydd yng Nghymru yn y llysoedd, felly pam nid yn y cyfweliadau gyda'r heddlu?"
Mewn ymateb dywedodd Dirprwy Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Richard Debicki: "Hoffwn fynegi ein bod ni wedi ymrwymo'n llawn i ddarparu gwasanaethau yn unol â safonau'r iaith Gymraeg a bod llawer fawr o waith wedi ei chwblhau er mwyn darparu gwybodaeth a chyfleusterau trwy gyfrwng y Gymraeg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2017