Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 2-1 Brighton

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd v BrightonFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Callem Patterson sgoriodd gôl gyntaf Caerdydd gyda pheniad o chwe llath

Wedi dechreuad simsan, llwyddodd Caerdydd i ennill yn haeddiannol o 2-1 yn erbyn 10 dyn Brighton ddydd Sadwrn.

Roedd Caerdydd ar ei hol hi wedi dim ond chwe munud o'r gêm.

Cic rydd yn cael ei chroesi fewn i gwrt cosbi Caerdydd a Lewis Dunk oedd ar y postyn pellaf i benio'r ymwelwyr ar y blaen.

Gydag ychydig o lwc llwyddodd Caerdydd i unioni'r sgôr wedi 28 munud.

Fe gymerodd croesiad Kadeem Harris gyffyrddiad oddi ar Bong a Callum Patterson oedd yn y fan ar lle i benio'r bel i'r rhwyd o chwe llath.

Yn dilyn y gôl roedd Caerdydd yn dechrau rheoli'r meddiant.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Brighton lawr i ddeg dyn ar ôl 34 munud gyda Dale Stephens yn gweld y cerdyn coch am dacl hwyr ar Greg Cunningham

Deuddeg munud cyn yr egwyl roedd Brighton lawr i ddeg dyn, fe lithrodd Dale Stephens yn hwyr fewn i dacl ar Greg Cunningham chael cerdyn coch gan y dyfarnwr.

Fu bron i Gaerdydd fynd ar y blaen wedi 58 munud. Ergyd wych o du allan y cwrt gan Kadeem Harris ond fe darodd y trawst.

Roedd Caerdydd yn llwyr reoli'r ail hanner, ond doedden nhw'n methu dod o hyd i unrhyw ffordd heibio amddiffyn Brighton.

Gyda chyfle prin yn ar ôl 82 munud, roedd yn rhaid i Etheridge yn y gôl i Gaerdydd wneud arbediad gwych o ergyd bwerus gan Izquierdo o du allan y cwrt cosbi.

Ar ôl pwyso a phwyso daeth haeddiant Caerdydd gyda gôl gyda dim ond munud o amser arferol i'w chwarae.

Ergyd acrobatiaid Sol Bamba yn taro'r postyn, wedyn ergyd Patterson yn cael ei chlirio oddi ar y llinell ond roedd Bamba yno i daro'r bel i gefn y rhwyd cyn i amddiffynwyr Brighton allu ymateb.

Ar ei ganfed gem fel rheolwr yr Adar Gleision, roedd Neil Warnock yn dathlu buddugoliaeth haeddiannol ar ochr y cae, gyda'r fuddugoliaeth yn codi Caerdydd o'r safleoedd cwymp.