'Defnyddiwch eich hawl i frechiad ffliw am ddim'

  • Cyhoeddwyd
FfliwFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae pobl sydd â phroblemau iechyd hirdymor yn cael eu hannog i amddiffyn eu hunain rhag y ffliw eleni.

Dangosodd ffigyrau ar gyfer gaeaf 2017 mai hanner y bobl oedd â'r hawl i frechiad am ddim a gymrodd fantais o hynny.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n rhybuddio y gallai rhai pobl fod yn peryglu eu hiechyd drwy beidio â mynd am frechiad.

Gall pobl sydd â chyflyrau fel diabetes, cyflyrau ar y galon, yr afi/iau neu'r aren gael brechiad am ddim.

'Peidiwch â chymryd risg'

Mae'r ffliw yn lledaenu drwy ddiferion sy'n teithio drwy'r awyr wrth i berson beswch neu disian.

Mae modd ei ddal hefyd drwy ddod i gysylltiad â dwylo neu arwynebedd sydd wedi eu heintio.

Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Jean White: "Mae amddiffyniad ar gael, a brechiad ffliw blynyddol yw'r ffordd orau o atal eich hun rhag dal y ffliw, all wneud eich cyflwr yn waeth ac arwain at gymhlethdodau peryglus.

"Peidiwch â chymryd risg - gwnewch yn siwr eich bod yn cael eich brechiad eleni."