Pryder am 'ddryswch' posib enw newydd Aelodau Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Siambr y CynulliadFfynhonnell y llun, Press Association

Mae Llywydd y Cynulliad wedi cynnig y dylai'r teitl 'Aelod Cynulliad' newid i fod yn 'Aelodau'r Senedd' os yw enw'r Cynulliad yn newid ei enw.

Fe ddaeth y cynnig ar ôl i Elin Jones ysgrifennu at ACau yn galw arnynt i gefnogi newid enw'r safle i 'Senedd'.

Ond mae rhai wedi mynegi pryder y gall y teitl newydd achosi dryswch i'r cyhoedd, gan ei fod yn debyg i'r term sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at Aelodau Seneddol yn San Steffan.

Byddai'r newid yn golygu mai 'AS' fyddai talfyriad y ddwy swydd.

'Creu dryswch'

Roedd rhai Aelodau Cynulliad wedi mynegi pryder y byddai newid enw'r sefydliad i'r Welsh Parliament wedi golygu talfyrru enw Saesneg yr aelodau i MWP (Member of Welsh Parliament), fyddai'n rhy debyg i'r ansoddair 'twp'.

Er mwyn osgoi hyn mae Elin Jones yn cynnig y dylai'r enw 'Senedd' gael ei ddefnyddio'n amlieithog, gydag aelodau'n cael eu hadnabod yn Saesneg fel 'Members of the Senedd', neu MS.

Er hyn mae rhai gwleidyddion wedi beirniadu cynigion y Llywydd, gan ddweud y gallai greu rhagor o ddryswch.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur dros Dde Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty y byddai'r newid yn "creu dryswch gan ei fod yn rhy debyg i deitl Aelod Seneddol".

elin jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Jones yn dweud y dylai'r sefydliad gael yr un enw yn y Gymraeg a'r Saesneg

Ychwanegodd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad y byddai well ganddo weld enwau Saesneg a Chymraeg i'r sefydliad, sef 'Senedd Cymru' a 'Welsh Parliament'.

Mae'r newid teitl yn rhan o gynigion y Llywydd sydd hefyd yn cynnwys gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau Cynulliad i 16.

Mae hefyd wedi awgrymu y dylai'r Comisiwn Etholiadol gael ei ariannu a bod yn atebol i'r Senedd.

Bydd angen sêl bendith 40 o'r 60 Aelod Cynulliad er mwyn pasio'r newidiadau.