'Heriau' i BBC Radio Wales wrth i'r orsaf droi'n 40 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i BBC Radio Wales wynebu'r heriau sy'n dod yn sgil newidiadau i arferion gwrando, yn ôl golygydd yr orsaf.
Roedd Colin Paterson yn siarad wrth i'r orsaf ddathlu 40 mlynedd ar yr awyr.
Er bod ffigyrau gwrando Radio Wales wedi cyrraedd eu lefel isaf ers i gofnodion ddechrau, mae Mr Paterson am i'r orsaf fod yn "boblogaidd" tra'n cynnig cynnwys amrywiol.
Dywedodd Mr Paterson bod BBC Cymru wedi gwneud gwaith ymchwil i "geisio deall beth yn union yw'r gymysgedd orau i'r orsaf".
Ychwanegodd ei fod yn bwriadu "dod ag enwau newydd a thrio pethau newydd" yn y dyfodol.
Mae'r twf yn y gwasanaethau ffrydio a phodlediadau wedi cyflwyno heriau newydd i'r gorsafoedd radio traddodiadol.
Yn ddiweddar fe lansiodd y BBC ap newydd, BBC Sounds, sy'n rhoi platfform i holl orsafoedd radio'r gorfforaeth, gan gynnwys eu podlediadau.
"Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n rhan o'r gymysgedd," meddai Mr Paterson.
"Mae'n amser o newid i'r cyfryngau, ond rwy'n meddwl hefyd ei bod hi'n amser cyffrous iawn.
"Mae jest rhaid i ni fod yn glir am ble mae Radio Wales yn y farchnad a beth sy'n rhaid i ni ei wneud i'n cynulleidfaoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2016