Cyhoeddi enwau dau bensiynwr fu farw yn Llanelwy
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enwau'r ddau bensiynwr fu farw mewn tŷ yn Sir Ddinbych fore Mawrth.
Dangosodd post mortem fod Joseph Howard Titterton, 80 oed, a Jackie Titterton, 77 oed, wedi mygu i farwolaeth.
Cafodd swyddogion eu galw i'w cartref yn Bishop's Walk yn Llanelwy am 08:30 fore Mawrth a chanfod y ddau wedi marw.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Iestyn Davies: "Ar hyn o bryd, rydw i'n fodlon nad ydym yn ystyried bod unrhyw un arall yn gysylltiedig gyda'r marwolaethau, ac nad oes yna berygl i'r cyhoedd."